Mo Jannah
Mo Jannah
Trosolwg:
Cyflwynydd/Cynhyrchydd llawrydd ac yn creu cynnwys
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol

Ganwyd Mo Jannah yn Llundain ond fe'i magwyd yng Nghaerdydd. Yn y gorffennol, bu'n gweithio gyda throseddwyr ifanc a gwasanaethau ieuenctid.  Yn entrepreneur cymdeithasol ifanc, uchelgeisiol, yn 2018 symudodd Mo i weithio ym myd teledu a radio ac mae bellach yn Gyflwynydd/Cynhyrchydd llawrydd, yn creu cynnwys ac yn gweithio’n bennaf gyda BBC a C4.  Cyn dod yn un o ohebwyr X-Ray, datblygodd raglen ddogfen chwaraeon ar gyfer BBC Cymru ac ysgrifennodd ei gyfres ar-lein ei hun am Hanes Pobl Dduon. Bu hefyd yn gweithio fel cyflwynydd ar raglen ddogfen "Mo's World," a oedd yn canolbwyntio ar ei waith fel hyfforddwr bywyd ac ymyriadau gyda dynion ifanc amrywiol, ar gyrion cymdeithas o Gaerdydd a Chasnewydd.

Ar ôl treulio blynyddoedd ar lawr gwlad yn cefnogi'r rhai mewn angen, mae ganddo lefel o brofiad, mynediad a chysylltiadau heb eu hail ymysg ei gyfoedion.