Penderfynais fynd yn hunangyflogedig ar ôl i mi ganfod fy hun yn ddwfn mewn perthynas dreisgar a arweiniodd at golli fy nghartref, fy swydd a’m bywyd.
Roedd sefydliad arall wedi fy annog i godi pontydd gyda’m teulu a’m ffrindiau, a chofrestru ar gwrs entrepreneuriaeth. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli y byddai, nac y gallai, y sgiliau roeddwn i wedi’u dysgu yng Ngholeg Morgannwg yn 2008 cyn cwrdd â’r sawl a gyflawnodd y trais ddod yn gyfle busnes.A doeddwn i ddim wedi sylweddoli ychwaith bod modd i mi lwyddo er gwaethaf y graddau gwael a gefais yn yr ysgol! A dechrau rhedeg busnes.
Dechreuais fy menter busnes drwy ymgymryd â gwaith symudol o amgylch ardaloedd Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda. Ar ôl cyfnod caled yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, ac elw misol o £33, penderfynais ail-frandio a newid strwythur fy musnes. Busnes cost isel, elw uchel, trosiant cyflym.
Wedi hynny, agorais far aeliau yn fy marchnad dan do leol ym Mhontypridd.
Fe ddaeth yn llwyddiannus yn y flwyddyn gyntaf, felly roedd angen symud i adeilad mwy.
Gyda chymorth agorais y salon tri llawr yn Nhref Pontypridd.
Mae gen i salon arall yng Nghoed-duon hefyd.
Mae gen i 5 aelod parhaol o staff a 2 aelod achlysurol.
Rydym yn cynnig cyfleoedd i ysgolion lleol anfon disgyblion atom i gael profiad gwaith.
Fuaswn i byth wedi rhagweld gweld y tîm yn tyfu, darparu swyddi lleol a pharhau i wneud y pethau rwy'n eu mwynhau yn fy nghwmni.
Hoffwn weld pob unigolyn ifanc yn mynd amdani, ac i ddyfynnu’r hyn rwy’n ei ddweud wrth fyfyrwyr:
"Er mwyn cael rhywbeth dydych chi erioed wedi'i gael, mae’n rhaid i chi wneud rhywbeth dydych chi erioed wedi’i wneud”