Natalie Griffiths
Natalie J Griffiths Illustrations
Trosolwg:
Darlunydd llawrydd, sy’n gweithio ar lyfrau, darluniadau ar gyfer nwyddau, golygyddol a llythrennu â llaw ar gyfer siopau.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Sir Y Fflint

Rydw i’n ddarlunydd llawrydd a raddiodd o Brifysgol Glyndŵr yn 2013. Rydw i wedi gweithio yn llawrydd ers i mi raddio ac rydw i wedi gwethio ar amrediad o bethau; darluniadau cymeriadau ar gyfer byd cyhoeddi plant yn bennaf, nwyddau chwaraeon yn ogystal â phrosiectau llythrennu â llaw. Rydw i’n gweithio o’m stiwdio fechan yn fy nghartref yng Ngogledd Cymru, ond rydw i’n gweithio gyda chleientiaid drwy Ogledd-orllewin Lloegr a Chymru yn ogystal ag ymhellach.

Roedd gen i gariad naturiol bob amser tuag at wneud lluniau a chreu; fy atgof cyntaf yw ohonof yn 8 oed yn cerdded allan o’r ysgol gyda’r syniad “os gallaf wneud lluniau bob dydd, yna byddaf yn hapus” ac ni ystyriais unrhyw beth arall mewn gwirionedd ar ôl hynny! Euthum drwy’r Coleg a’r Brifysgol gyda’r syniad mai’r ystafell gelf oedd y lle’r oeddwn hapusaf a gadewais hynny i fod y sbardun y tu ôl i sefydlu busnes.

Dewisais fod yn llawrydd oherwydd yr oeddwn wedi treulio fy amser i gyd yn y Brifysgol yn datblygu arddull unigryw a nodweddiadol ac roeddwn yn meddwl fy mod yn haeddu cyfle i fod yn llawrydd cyn i mi ystyried gweithio mewn swyddfa yn rhywle neu ddewis cael asiant. A dweud y gwir, rydw i wedi darganfod fy mod yn wirioneddol hoff o’r agwedd o rwydweithio a chysylltu â phobl a chwmnïau newydd i gael gwaith, ac felly rydw i’n gwneud llawer o waith marchnata fy hun yn awr beth bynnag!

Bydd rhai problemau yn digwydd bob amser, ac wrth fy mod yn llawrydd, un o’r problemau rheolaidd mwyaf yw cysylltu â rhywun yn y gobaith o ddatblygu eich busnes a chael dim yn ei ôl, ond rydych chi’n dysgu i edrych am ffyrdd amgen. Os oes gennych chi’n angerdd hwnnw a chred ynoch chi eich hun, yna rydych chi’n dod o hyd i ffordd i wneud iddo weithio.

Y broblem fwyaf yr wyf wedi’i hwynebu hyd yma fyddai fy niagnosis o bryder pan oeddwn i’n dechrau gweithio yn llawrydd. Ar amser pan oedd popeth i fod i deimlo yn wirioneddol newydd a chyffrous, roedd fy mhen wedi fy llethu yn gyfan gwbl a dechreuais feddwl gormod am bopeth. Nid hwn oedd y dechrau gorau yn sicr, ond sylweddolais yn gyflym fy mod am gael pryder beth bynnag yr wyf yn dewis ei wneud; gweithio o 9 tan 5 neu weithio’n llawrydd, ac felly dysgais wrando arnaf fy hun a gwybod pa bryd yr oeddwn angen amser a pha bryd y gallwn i fwrw ymlaen. Mae’n parhau i fod yn deimlad o “ddysgu wrth fynd ymlaen” ac rydw i’n cael dyddiau da a dyddiau drwg, ond mae’n gweithio i mi ac mae’r buddion o wneud yr hyn yr ydych chi’n ei garu yn aml yn rhoi taw ar y meddyliau o bryder am ychydig. Hefyd, rydw wedi dysgu i’w ddefnyddio yn fy sgyrsiau SMC ac rydw i’n gweld ar ôl pob sesiwn, bydd o leiaf un unigolyn yn dod ataf sydd wedi cael profiad o faterion iechyd meddwl, ac o feddwl ei fod wedi taro tant gyda nhw neu wedi rhoi’r gydnabyddiaeth honno iddyn nhw y gallwch chi barhau i wneud yr hyn yr ydych chi eisiau, hyd yn oed gyda’r problemau hynny, mae hynny’n rhoi hwb i mi yn ogystal ag iddyn nhw.

Mae bod yn bennaeth arnaf fy hun, a chodi o’r gwely yn hwyrach na’r rhan fwyaf o bobl ar fore Llun yn parhau i fod ar y rhestr o fanteision o fod yn bennaeth arnaf fy hun. Mae hyblygrwydd yn wych i mi, gallaf wneud gwahanol brosiectau a pheidio â gwneud yr un peth o hyd. Mae fel troelli platiau; ambell waith rydych chi’n gollwng rhai, ambell waith rydych chi’n cael troelli llawer, mae rhai yn troelli yn arafach nag eraill, ond rydw i wedi dod i garu hynny.

Fy mhrif arbenigedd yw gwneud lluniau a bod yn fusnes creadigol, ond rydw i’n cyfuno gwneud lluniau gyda sgiliau eraill er mwyn ei wneud i weithio ar gyfer gwahanol feysydd. Darlunydd ydw i, ond rydw i’n gweithio ar lyfrau, darluniau ar gyfer nwyddau, golygyddol a llythrennu â llaw ar gyfer siopau. Felly, oherwydd eich bod chi’n gweld eich hun fel un peth yn unig, gallwch chi fynd â’r sgiliau hynny a beth yr ydych chi’n hoffi’i wneud a’i ddefnyddio ar gyfer llawer o bethau gwahanol.

Fy nghyngor i yw darganfod yr hyn yr ydych chi’n angerddol amdano a gwneud hynny. Peidiwch ag ofni marchnata eich hun, mae’n ddychrynllyd ond mae’n werth pob tamaid