Natalie Rose photo
Natalie Rose
Evrah Rose
Trosolwg:
Awdur cyhoeddedig, perfformiwr geiriau llafar, ymgyrchydd cymdeithasol, rheolwr prosiectau cymunedol a hwylusydd gweithdai
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol

Dechreuais ysgrifennu pan oeddwn tua 8 oed, nid yn unig oherwydd fy nyhead i fod yn fardd neu’n siaradwr enwog, ond yn syml dyna’r unig ffordd a wyddwn am sut i fynegi’r profiadau anodd yr oeddwn yn mynd drwyddynt. Treuliais fy arddegau yn gwneud yr un peth, ac fe ddaeth yn therapi cyson a’r allbwn oeddwn ei angen. Ar ôl dioddef gydag iechyd meddwl, penderfynais mai nawr oedd yr amser i mi gymryd y cam i lwybr oedd yn gefnogaeth i mi, fy lles emosiynol a’m hangerdd. Ers 2017, rydw i wedi mynd o ysgrifennu ambell gomisiwn fan hyn fan draw o’m cartref, i fod yn awdur rheolaidd i BBC Sesh, a gyda miliynau wedi gwylio’r fideos ar gyfryngau cymdeithasol, arwyddo cytundeb cyhoeddi gyda Verve Poetry Press a gweithio gyda sefydliadau anhygoel fel; Ymddiriedolaeth Befan, Chwarae Teg, Tŷ Pawb a’r Prince’s Trust.  Rwyf hefyd wedi cael sylw a chyfweliadau ar sianeli teledu a radio amrywiol fel BBC Two a Three, BBC Radio Wales, ITV Wales, BBC Wales News a Calon FM.

Rwy’n ymgyrchydd cymdeithasol brwd, ac yn defnyddio fy llwyfan i godi ymwybyddiaeth o faterion cymdeithasol ac anghyfiawnderau allweddol, ac yn cael fy nghyfrif yn llais dibynadwy ledled Cymru, gydag amryw o sefydliadau gwleidyddol a chymdeithasol yn edrych arnaf am farn a dylanwad diduedd. 

Trwy adrodd barddoniaeth cefais y fraint o berfformio ledled y DU mewn rhai digwyddiadau anhygoel, tra’n caniatáu i mi gyfuno fy angerdd am bêl-droed gyda fy ngwaith. Yn 2019, perfformiais o flaen 7000 o gefnogwyr yn y Cae Ras ar ddiwrnod gêm, i berfformio cerdd a ysgrifennais a’i chyflwyno i’r clwb i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched.  Ers hynny, rwyf wedi datblygu perthynas gref gyda’r clwb a’r perchnogion newydd, sydd bellach yn ymwneud yn helaeth gyda datblygu a rheoli prosiectau cymunedol cadarnhaol o amgylch Wrecsam gyda’u cefnogaeth.  

Rwyf mewn partneriaeth ag Undeb Cymru a’r Byd i ymgysylltu a hyrwyddo codi proffil Cymru, i annog gwerthfawrogiad a rhyngweithio gyda chymunedau ehangach y byd a’r cymunedau Cymraeg sy’n bodoli’n fyd-eang. 

Cefais y fraint o’m gwneud yn ymddiriedolwr ym maes Chwarae Venture ym Mharc Caia, Wrecsam yn 2018. Mae’n hwb hanfodol ar gyfer plant a phobl ifanc i fynegi eu hunain yn rhydd, a threuliais lawer o amser yno pan oeddwn i fy hun yn tyfu fyny. 

Rwy’n mwynhau cynnal gweithdai sy’n hyrwyddo lles emosiynol a chynnal trafodaeth agored am iechyd meddwl gyda phobl ifanc ac oedolion mewn lleoliadau addysgol amrywiol, gan ddefnyddio’r gair llafar fel ffordd gadarnhaol o fynegi’n gadarnhaol, ac allbwn mynegiant sy’n hawdd ei ddeall gan nad yw’r naratif yn cael ei gyfyngu gan farddoniaeth  Rwy’n cael fy nylanwadu gan artistiaid fel George the Poet, Eminem, Tupac Shakur a Stacey Ann Chin. Mae’r ffordd maent yn dweud eu straeon mor real ac amrwd, a’u defnydd o sain a geiriau i gyfleu hynny yn ysbrydoliaeth di ben draw i mi.