Nathan Webb
Anytime Films Limited
Trosolwg:
Cynhyrchu ffilmiau a fideos dogfen ar gyfer cleientiaid corfforaethol
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Blaenau Gwent

Mae Nathan Webb yn awdur, yn gynhyrchydd ac yn gomedïwr. 

Am ddeng mlynedd rhedodd fusnes, o dan Anytime Films, gan gynhyrchu mwy na 100 o ffilmiau a fideos hyrwyddo, gan gynnwys meithrin cysylltiadau â Channel 4 a BBC Cymru. 

"Dal ati, dyfalbarhad ydy’r allwedd. Dysga, tyfa, ac yna dal ati unwaith eto, ac un diwrnod byddi di’n deffro yn arbenigwr yn dy faes."

Nathan Webb, Anytime Films Limited 


Mae ei anerchiadau Syniadau Mawr Cymru yn canolbwyntio ar annog pobl ifanc i feddwl am sut allan nhw droi eu diddordebau yn fusnes, a thrwy wneud beth sydd wrth eu bodd, byddan nhw’n fwy angerddol, penderfynol a chryf eu cymhelliant i lwyddo! Yn 2016 penderfynodd fod angen newid ac i gau Anytime Films ac ailfrandio.

 

Ar hyn o bryd mae’n gweithio yn cynnig gwasanaethau ysgrifennu a chynhyrchu, comedi ar eich sefyll a chynhyrchu fideos feirysol o dan ei enw ei hun nes i frand neu syniad gwell ddod i’r amlwg.