Rydw i’n awdur ac yn berfformiwr comedi llawrydd/hunangyflogedig. Rydw i hefyd yn ysgrifennu ac yn recordio sgetshis, yn cynnwys rhai i ddarlledwyr fel BBC Sesh. Rydw i wedi bod yn hunangyflogedig ers fy mod i tua 24 oed. Roeddwn i wedi astudio darlledu, ffilmio a golygu yn y coleg ac eto wedyn yn y brifysgol. Cefais brofiad gwaith fel dyn camera hefyd tra oeddwn yn astudio, felly roeddwn i wedi dysgu sgiliau ac wedi penderfynu dechrau busnes fideos ar ôl graddio. Dechreuais i o’r dechrau gyda help grant o £300 gan y Prince’s Trust a chymorth busnes a grantiau gan Lywodraeth Cymru wrth i’r busnes dyfu. Roeddwn i wedi sefydlu gwefan syml iawn a gwneud ychydig o daflenni ag arian y grant cyntaf. Roedden ni wedi ennill ychydig o wobrau. Dysgais i’r ochr busnes i bethau wrth fynd ymlaen, ond rydw i wedi cael mentoriaid da bob cam o’r ffordd. Ar ôl deng mlynedd, rhoddais i’r gorau i’r busnes am fod angen her newydd arna i. Perfformio comedi oedd yr her honno; dechreuais i wneud hynny pan oeddwn i tua 35 oed.
Rydw i wedi cael fy ysbrydoli gan storïau erioed; boed y rheini mewn llyfrau, ffilmiau neu raglenni teledu. Roedd fy ngwaith bob amser yn cynnwys rhyw fath o ddweud stori. Gallwn i ysgrifennu storïau pan oeddwn i’n ifanc, a’r llyfrau a oedd yn fy ysbrydoli bryd hynny oedd storïau Roald Dahl a J.R.R. Tolkien. Byddai fy rhieni bob amser yn ein cymell i ddarllen ac roedd nifer mawr o lyfrau o gwmpas. Byddwn i hefyd yn ymgolli mewn ffilmiau a theledu; fi oedd y plentyn a oedd yn gwybod y geiriau nesaf yn y ffilm. Roeddwn i’n gallu dynwared pobl a byddwn i’n actio’r cymeriadau o raglenni fel Harry Enfield and Chums a’r Fast Show gyda ffrindiau yn yr ysgol (a gallwn i ddynwared rhai o’r athrawon hefyd!). Rydw i wedi cael fy ysbrydoli gan lawer o bobl eraill hefyd fel y digrifwyr Peter Kay, Frank Skinner a Jason Byrne, a hefyd gan awduron ffilmiau a chyfarwyddwyr fel Steven Spielberg.
Rydw i’n credu ei bod yn naturiol bod rhwystrau’n codi mewn busnes. Yn fy musnes cyntaf, roeddwn i wedi ehangu a chymryd swyddfa newydd (a drud). Doedd dim angen gwneud y newid hwnnw. Roedd yr un peth hwnnw wedi dysgu gwers bwysig i mi: cadwch bethau’n syml. O ganlyniad i hynny, roeddwn i wedi cau’r busnes hwnnw a symud i faes comedi. Mae’n enghraifft dda, gan fod rhywbeth a oedd yn ymddangos yn broblem wedi troi’n fendith. Ym maes comedi, y problemau yw jôcs sy’n methu â gweithio, sioeau ofnadwy neu amhosibl eu gwneud a hyd yn oed fy nghar yn nogio ar y ffordd i ŵyl yr Edinburgh Fringe.
Y peth rydw i wedi’i fwynhau fwyaf erioed o fod yn fòs arnaf i fy hun yw’r rhyddid. Y gallu i wneud beth bynnag rydych chi am ei wneud, ar yr amser sy’n eich siwtio, gyda’r bobl rydych chi am gydweithio â nhw. Mae gen i ymennydd tebyg i ADD, sy’n golygu fy mod i’n hoffi bod yn greadigol, ond yn gallu ei chael yn anodd canolbwyntio ar un peth yn hir gan ei bod yn hawdd tynnu fy sylw. Mae bod yn fòs arnoch chi’ch hun yn berffaith ar gyfer hyn, gan na fydd byth ddau ddiwrnod yr un fath ac mae llawer o bethau i’w gwneud. Mae’r amrywiaeth o fod yn fòs arnoch chi’ch hun yn bodloni’r awydd creadigol. Er hynny, y peth mwyaf yw’r amser rydych chi’n gallu ei dreulio gyda’r teulu a ffrindiau, yn enwedig fy nau blentyn pan gawson nhw eu geni.
Y cyngor gorau gen i!
Cychwynnwch mor ifanc ag y gallwch chi a pheidiwch ag ofni gwneud camgymeriadau achos dyna’r ffordd orau i ddysgu. Ond yn gyntaf, cymerwch amser i deithio a dysgu am y byd tra byddwch chi’n ifanc. Chwiliwch am brofiadau bywyd a gwneud cysylltiadau ym mhob rhan o’r byd cyn i chi ddechrau’ch menter newydd (neu nesaf). Dysgwch ieithoedd newydd. Mae’r brifysgol yn lle da i wneud ffrindiau newydd ac mae’n gallu agor drysau ond dyw hi ddim at ddant pawb nac yn hanfodol os ydych chi am fod yn hunangyflogedig. Pobl a pherthnasoedd yw’r peth pwysicaf un. Treuliwch eich amser yng nghanol eich teulu a ffrindiau cefnogol a didwyll. Rhowch gynnig ar lawer o bethau gwahanol nes i chi ddod o hyd i’r peth rydych chi am ei wneud. Byddwch chi’n fwy tebygol o ddal ati os ydych chi’n ei fwynhau.