Nerys Hewitt
Nerys Hewitt Telynores
Trosolwg:
Telynores ar ei liwt ei hun
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Wrecsam

Rwyf wedi cael gyrfa lwyddiannus iawn fel telynores ar fy liwt fy hun am yr 20 mlynedd diwethaf yn chwarae mewn nifer o wahanol leoliadau ar hyd a lled Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr, ac ymhellach i ffwrdd. Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnwys; Priodasau, partneriaethau sifil, cerddoriaeth gefndir mewn bwyty, digwyddiadau corfforaethol, gwleddoedd canoloesol, pen-blwyddi a llawer mwy. Rwyf yn darparu awyrgylch soffistigedig a hamddenol. 
 
Gweithiwch yn galed. Os oes gennych freuddwyd, ewch amdani!
Nerys Hewitt
 
Mae gen i repertoire eang, amrywiol o Gerddoriaeth Glasurol, Rhamantaidd, Hawdd Gwrando, Ffilm, Sioeau Cerdd a Gwerin Cymreig, Albanaidd a Gwyddelig traddodiadol. Rwyf hefyd yn asiant delynor ac yn cyflogi llawer o delynorion eraill i chwarae ar fy rhan. Rwy'n mwynhau bod yn rhan o'r Gwleddoedd Canoloesol Enwog a Chastell Rhuthun lle yr wyf yn cyfeilio i gorau a chantorion unigol. Rwyf wedi magu cyfoeth o wybodaeth o fy mhrofiad helaeth, sy'n caniatáu i mi hyrwyddo ac annog hunangyflogaeth i bobl ifanc. 
 
Rwyf wrth fy modd gyda’r hyn yr wyf yn ei wneud, gan weithio gyda fy nau brif angerdd; cerddoriaeth a chwrdd â phobl newydd.