Noel James
Noel James Digifwr
Trosolwg:
Comedian
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Abertawe

Rwyf wedi bod yn troedio llwyfannau - a hynny braidd yn rhy agos at yr ymyl weithiau, yn ôl rhai - am bum mlynedd ar hugain. Comedïwr profiadol, gwreiddiol iawn o Abertawe sydd wedi perfformio - a hynny’n aml fel y prif atyniad - yn y rhan fwyaf o glybiau comedi’r DU. Yn ogystal â pherfformio mewn clybiau, rwyf wedi ymddangos yn y prif wyliau, ac wedi perfformio dramor mewn canolfannau yn Dubai, Shanghai, Berlin, Cape Town a Chanada. Rwyf wedi gwneud rhaglenni sgetshis i BBC Radio Wales, ac wedi ymddangos mewn rhannau comedi ac actio yn y Gymraeg a’r Saesneg ar y teledu. Nid wyf yn mynd ati’n fwriadol i fod yn gomedïwr anweddus. Rwyf yn dod yn fyw ar lwyfan a fy nod yw codi calonnau pawb. Mae fy neunydd yn wreiddiol iawn, yn ddeallus, gyda pheth chwarae ar eiriau, mae rhai pobl yn meddwl ei fod yn glyfar ond ar yr un pryd mae ei apêl yn eang. Gallaf hefyd berfformio yn fy mamiaith, y Gymraeg.