Pamela Drew
Pamela Drew Business Support Ltd
Trosolwg:
Arbenigwraig Twf Busnes
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Sir Y Fflint

Rydw i’n unigolyn cyfeillgar, hapus sydd bob amser yn falch i helpu os gallaf.

Pan oeddwn i’n 10 oed, roedd gen i rownd bapur newydd, a phan oeddwn yn 11 oed, fi oedd yn rhedeg y rownd bapur; roedd gen i’r rownd fyrraf ac roeddwn yn ennill mwy o arian na neb arall.

Pan oeddwn yn 13 oed, roeddwn i’n rhedeg clwb gwarchod babanod – gan drefnu i ffrindiau a fyddai’n gwarchod babanod ar gyfer rhieni a oedd angen mynd allan. (mi fy hun – casglu’r arian yn unig oeddwn i).

Pan oeddwn yn 16 oed, cefais swydd YTS ar gyfer y rheini sy’n cofio, ac roeddwn i’n ennill £23.50 yr wythnos, tra bod fy musnes gwarchod babanod yn ennill £30 yr wythnos.

Pan oeddwn yn 17 oed, euthum i fyw i Lundain.

Pan oeddwn yn 19 oed, fi oedd y prif therapydd amgen ar gyfer yr holl brif westai yn y West End. Roedd grŵp o bump ohonom, a dechreuais ddysgu sut beth oedd bywyd gydag arian ynddo.

Pan oeddwn yn 23 oed, roedd gen i gynnyrch aromatherapi ar y farchnad a llwyddais i’w gael ar silffoedd Selfridges a Fenwick’s a gwerthais y busnes hwnnw yn llwyddiannus.

Pan oeddwn yn 25 oed, roedd gen i ddwy siop gwallt a harddwch a phan oeddwn yn 30 oed roedd gen i bedair siop.

Pan oeddwn yn 39 oed, newidiodd fy mywyd yn llwyddiannus; gwerthais y siopau harddwch – euthum i hwylio ac yna dechreuais fusnes gwyliau hwylio.

Pan oeddwn yn 45 oed, newidiodd fy mywyd unwaith eto a gwerthais y busnes hwylio a dychwelais i Gaer.

Yn awr, rydw i’n gweithio i mi fy hun fel Arbenigwr Twf Busnes, gyda’r ethos hwn; er mwyn bod yn llwyddiannus, mae’n rhaid i chi gael eich calon yn eich busnes, a’ch busnes yn eich calon.