Paul Conway
Crown Fitness Club
Trosolwg:
Hyfforddwr personol sy'n rhoi cyngor, cyfarwyddiadau a hyfforddiant ymarfer corff
Sectorau:
Gofal iechyd a gofal cyflenwol
Rhanbarth:
Rhondda Cynon Taf

Ar ôl gwneud ychydig o swyddi gwahanol wedi imi adael yr ysgol, fe benderfynais fy mod am redeg fy musnes fy hun.  Busnes cludo nwyddau oedd fy nghynnig cyntaf, ond wnaeth hynny ddim gweithio.  Pan benderfynais fy mod am fynd yn hyfforddwr personol, sylweddolais bod angen cymwysterau ffitrwydd arna i, a chefais swydd mewn canolfan ffitrwydd. 

Fe enillais ysgoloriaeth hefyd i weithio mewn clwb ffitrwydd yn America.  Fe wnaeth y profiad yma fy ysgogi i sylweddoli y byddai'n well pe baswn yn rhedeg fy nghyfleuster ffitrwydd fy hun.

"Manteisiwch ar bob cyngor, a gwnewch ymchwil drylwyr am eich syniad. Cymerwch gamau bychain a pharatoi cynllun busnes da."

Paul Conway - Crown Fitness Club

Mae Crown Fitness Club yn wasanaeth ar gyfer y gymuned gyfan - rydyn ni'n cynnig cyngor, cyfarwyddiadau a hyfforddiant ymarfer corff, yn ogystal â dangos manteision ffyrdd iach o fyw.

 


Cysylltu gyda Paul