Paul Williams
QCD Services Limited
Trosolwg:
Cymorth ar safle i unrhyw amgylchedd weithgynhyrchu
Sectorau:
Adeiladu
Rhanbarth:
Caerfyrddin

Rydym yn darparu cefnogaeth ar y safle mewn unrhyw amgylchedd gweithgynhyrchu drwy ddarparu hyfforddiant a chanllawiau, gan gyflogi athroniaethau ac egwyddorion cynaliadwy, a defnyddio dull ymarferol.
 
Ffurfiwyd y cwmni yn 2004 o ganlyniad i flynyddoedd lawer o brofiad yn y sectorau awyrofod a modurol. Mae hi’r un stori mae cymaint o bobl ifanc yn eu hwynebu. Roeddwn syth allan o addysg uwch ar ôl cwblhau fy ngradd. Roedd y glowyr yn mynd i streicio ac roedd diweithdra yn uchel. Er gwaethaf cyfweliadau am swyddi, doedd gen i ddim profiad.
 
Po fwyaf y byddwch yn siarad am y syniad, po fwyaf y sylweddolwch ei bod am fod yn anodd. Meddyliwch drwy bethau yn gall, nid â rhyw ddarlun ffals yn eich meddwl.
Paul Williams - QCD Services Limited
 
Fel bos arnoch eich hun, byddwch yn gosod eich terfynau a’ch dyheadau eich hun, maent yn aml yn rhai anodd, ond mae’r teimlad o orfoledd a balchder a gewch wrth gyrraedd neu ragori ar eich disgwyliadau eich hun yn anfesuradwy - mae'n eich cymell ar gyfer eich her nesaf. Os byddwch yn methu, fel arfer does neb i’w feio ond chi, fodd bynnag, rhaid i chi ddysgu o’ch camgymeriadau - peidiwch â'u hailadrodd a symud ymlaen, ddywedodd neb erioed ei fod yn mynd i fod yn hawdd.
 
Mae gennym i gyd ran i'w chwarae yn y gymdeithas, ac mae’n rhaid i ni fuddsoddi yn ein cenhedlaeth iau. Rwy’n meddwl y gellid defnyddio fy mhrofiad a’m gwybodaeth i gynorthwyo eraill. 
 
Gwefan: