Paula Burns photo
Paula Burns
Paula Burns Events & Mentoring
Trosolwg:
Mae 2 ran i fy musnes - rydw i’n creu digwyddiadau arbennig a phriodasau (addurno lleoliad a/neu gynllunio o’r dechrau i’r diwedd). Ac ar ben hynny rwy’n fentor busnes creu
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol

Fi yw sylfaenydd a pherchennog fy nghwmni Paula Burns Events & Mentoring. Mae 2 ran i fy musnes - rydw i’n creu digwyddiadau arbennig a phriodasau (addurno lleoliad a/neu gynllunio o’r dechrau i’r diwedd). Ac ar ben hynny rwy’n fentor busnes creu, gan helpu perchnogion busnesau bach i ddod o hyd i ffyrdd creadigol o godi eu proffil a gwerthu rhagor. Mae’r cymorth rwy’n ei gynnig ar ffurf sesiynau 1 i 1, gweithdai, sesiynau hyfforddi ac eitemau i’w llwytho i lawr.

Dechreuais fy musnes i gofleidio fy nghariad at greadigrwydd ac i wneud yr hyn rwy’n ei garu. Roeddwn i wedi gweithio mewn amgylchedd corfforaethol am dros 20 mlynedd ac roedd hi’n hen bryd i mi ailafael yn pwy oeddwn i. Rydw i wrth fy modd gyda’r profiadau sydd gen i nawr. Mae pob diwrnod yn wahanol.

Gan fod y diwydiant digwyddiadau mor gystadleuol, roedd yn rhaid i mi ailddyfeisio fy hun droeon yn ystod y 17 mlynedd rydw i wedi bod mewn busnes. Mae creadigrwydd yn dod yn naturiol i mi ac mae’n un o’r prif bethau rwy’n ei ddysgu i bobl eraill er mwyn eu helpu i fod yn wahanol i’r gystadleuaeth. Rwy’n cael fy ysbrydoli gan bobl sy’n dechrau o ddim ac yna’n creu rhywbeth cyffrous.

Y peth gorau am fod yn fos arnaf fy hun yw’r rhyddid i fod yn fi fy hun. Mae gen i’r cyfleoedd sy’n caniatáu i mi gael profiadau cyfoethog a helpu pobl eraill i adnabod eu sgiliau creadigol unigryw eu hunain er mwyn creu canlyniadau gwych.