Peter Young
The Waterside Rest
Trosolwg:
Gwasanaeth Arlwyo a Bar Llawn mewn Digwyddiadau
Sectorau:
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Sir Fynwy

Ro'n i'n ddisgybl yn fy nhref genedigol, Cwm-brân. Diddordebau galwedigaethol oedd gen i ar y pryd, yn enwedig cerbydau modur. Fe adewais yr ysgol a bues i'n ddigon ffodus i gael prentisiaeth mewn adnewyddu cerbydau modur.

"Os oes gennych y sgiliau a'r hyder i ddechrau busnes, mae'n llawer gwell rhoi cynnig arni nag edrych yn ôl mewn deng mlynedd yn difaru eich bod heb fentro. Dyma'r cyngor gorau sydd gen i i'w gynnig."

Pete Young - The Waterside Rest

 

The Waterside yw fy enw masnachu, er mod i'n gysylltiedig â nifer o fusnesau eraill. Ar ôl tair blynedd ar hugain ym maes gwerthu ac adnewyddu cerbydau, fe wnes i newid cyfeiriad yn llwyr drwy ddechrau busnes llety, arlwyo a lletygarwch ym maes twristiaeth. Gwasanaeth Arlwyo a Bar Llawn mewn Digwyddiadau yw fy mhrif fusnes.

Yr hyn rydw i'n ei fwynhau fwyaf yw bod mewn rheolaeth, ac rydw i'n gwerthfawrogi'n llwyr mod i'n neb heb fy nhîm. Yn y gorffennol, rydw i wedi dysgu gwersi anodd. Er eu bod wedi fy helpu i fy ngwneud yn gryfach, byddai wedi bod yn braf pe baswn wedi bod yn fwy ymwybodol o beryglon byd busnes.


Cysylltu gyda Peter