Poppi Kingsepp
Poppi Kingsepp
Beautiful Buffets
Trosolwg:
Busnes Arlwyaeth
Sectorau:
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Castell Nedd Port Talbot

Entrepreneur ifanc o Castell-nedd Port Talbot yn troi hobi danteithion melys yn fusnes bwffe llewyrchus

 

Mae entrepreneur 20 oed o yn gosi blasbwyntiau pobl leol trwy lansio busnes arlwyo ei hun.

Lansiodd Poppi Kingsepp, o bentref Jersey Marine, Beautiful Buffets ddiwedd y llynedd o gegin ei theulu, man lle byddai'n aml yn dod o hyd i gysur yn ystod amseroedd anodd.

Gydag angerdd pobi wedi’i basio i lawr gan ei mam a’i nain, mae busnes Poppi’s yn cynnig amrywiaeth o fwydlenni i ddarparu ar gyfer digwyddiadau o feintiau amrywiol. Mae Beautiful Buffets eisoes wedi bod yn boblogaidd gyda phobl leol oherwydd ei ethos o fwyd cartref ffres, gan gynnwys canapes a phwdinau Poppi wedi’u gwneud â llaw, a darnau canol plat pori.

Yn 18 oed, ar ôl i’w rhieni wahanu, aeth Poppi i’r gegin i goginio prydau twymgalon a phwdinau melys mewn ymdrech i godi ysbryd ei mam, Tammerson a’i brawd Harri, 16, ac mae’r ddau gyda rolau o fewn y busnes heddiw. Daeth ei phlatiau pori nid yn unig â’i theulu at ei gilydd ond profodd i fod yn fath o therapi i Poppi nad oedd yn gwybod eto ei bod yn adeiladu esgyrn ei busnes.

Roedd y cyfnod cloi yn gyfle perffaith i Poppi gynllunio ac adeiladu’r busnes Bwffe Prydferth, gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru. Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o Busnes Cymru ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae wedi’i anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sydd eisiau datblygu syniad busnes, yn fusnes hyfyw. Cefnogir hyn gan Warant Pobl Ifanc Llywodraeth Cymru, sy’n anelu at ddarparu cymorth i bawb dan 25 oed i gael gwaith neu hunangyflogaeth, i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant.

Meddai Poppi: “Rwyf wastad wedi caru coginio, ond heddiw mae coginio yn golygu rhywbeth hollol newydd i mi. Mae fy hobi therapiwtig nid yn unig wedi fy ngalluogi i fondio gyda fy nheulu ar adegau heriol, gyda fy mam yn cefnogi darpariaeth Beautiful Buffets a fy mrawd yn gweithredu fel profwr chwaeth personol, ond mae wedi fy ngalluogi i ddod yn fenyw fusnes lwyddiannus.”

Mae'r smorgasbord o opsiynau sydd ar gael ar wefan Beautiful Buffets yn galluogi cwsmeriaid i ddewis a dethol arlwyaeth digwyddiadau sy'n cyd-fynd â'u cyllideb, gyda phrisiau'n amrywio o £30 am blaten crudités bach i £127 ar gyfer plat bwyd môr.

Ers ennill cefnogaeth oddi-wrth Syniadau Mawr Cymru y llynedd, mae Poppi wedi mynychu cyrsiau coginio ac arlwyo, wedi cwblhau cyrsiau Hylendid ac Iechyd ac Ymwybyddiaeth Alergedd Lefel 2, ac wedi derbyn cyngor ac adnoddau gwerthfawr sydd wedi ei chefnogi i lansio ei busnes ei hun.

Wrth siarad am y gefnogaeth a gynigiodd Syniadau Mawr Cymru, dywedodd Poppi: “Roedd lansio busnes yn y sector lletygarwch ôl-bandemig yn her, yn enwedig i mi fy hun, rhywun nad oedd yn gwybod dim byd o gwbl am fusnes. Dyna pam ei bod mor dda gwybod bod Syniadau Mawr Cymru yno i’m cefnogi i a fy musnes yn ystod y cyfnod hwn.

“Roedd gan Syniadau Mawr Cymru gymaint o gyngor gwerthfawr i’w gynnig i mi fel entrepreneur ifanc a rhoddodd yr offer yr oedd eu hangen arnaf i lywio’r diwydiant hwn. Ni allwn fod wedi gwneud hyn heb gefnogaeth fy nghynghorydd busnes, Amanda, a ddaeth i bob un o’n cyfarfodydd cynnydd wythnosol gyda chyngor defnyddiol, adnoddau defnyddiol a llawer o asedau i helpu i dyfu fy musnes.”

Fe wnaeth Syniadau Mawr Cymru hefyd gefnogi Poppi gyda’i chais llwyddiannus am Grant Rhwystrau o £2,000 a roddodd Poppi tuag at fwy o offer ar gyfer ei busnes, gan gynnwys oergelloedd a phlatiau poeth ychwanegol i’w helpu i ehangu i arlwyo bwyd poeth mewn digwyddiadau mwy – pob un ohonynt hefyd cyfrannu at Popi yn derbyn sgôr hylendid bwyd 5-seren y mis hwn.

Dywedodd Amanda Bordessa, cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru: “Mae’n bleser gweld busnes arlwyo Poppi yn tyfu yn ystod cyfnod mor ansicr. Mae Poppi yn dyst i ba mor galed ac ymroddiad yw'r arfau pwysicaf i adeiladu a lansio busnes newydd llwyddiannus. Dylai hi a’i theulu fod yn falch iawn o’r busnes, ac edrychaf ymlaen at ei weld yn tyfu.”

Ochr yn ochr ag ehangu ei chynigion blasus ac arlwyo i ddigwyddiadau mwy, mae gan Poppi uchelgais i agor ei siop fach ei hun ochr yn ochr â’i busnes ar-lein, lle gall gwrdd â chwsmeriaid ac eistedd i lawr i drafod bwydlenni pwrpasol ar gyfer eu digwyddiadau.