Ray Squire
DrivenbyQ
Trosolwg:
Arweinydd y farchnad sydd wedi’i hen sefydlu ym maes teithio corfforaethol, gan gyflenwi un o fflydoedd Mercedes mwyaf y rhanbarth.
Sectorau:
Manwerthu
Rhanbarth:
Wrecsam

Sefydlwyd DrivenByQ yn 2005 fel cwmni trosglwyddo gweithredol o’r maes awyr gan berchen ar un car Volvo S80 yn unig. Heddiw mae DrivenByQ yn arweinydd y farchnad wedi’i hen sefydlu ym maes teithio corfforaethol gan gyflenwi un o fflydoedd Mercedes mwyaf y rhanbarth. Yn 2005 croesawon ni e-bost yn lle ffacs. Bu’n foment ddiffiniol ac mae buddsoddiad mewn technoleg er mantais gystadleuol wedi bod yn un o’n gwerthoedd craidd ers hynny. Mae DrivenByQ yn arbenigwyr ym maes teithio corfforaethol gan berchen ar fflyd fawr o gerbydau gweithredol. Rydym yn cefnogi cwmnïau gweithgynhyrchu mawr, BBaCh ac ymgynghorwyr annibynnol sydd oll yn dibynnu ar sicrwydd, dibynadwyedd a gwasanaeth proffesiynol. Mae DrivenByQ yn ymdrin â chwsmeriaid busnes yn unig felly mae mwyafrif o’n ceir gweithredol wedi’u heithrio. Rydym yn meddu ar drwyddedau ac wedi ein rheoleiddio ar gyfer hurio preifat ond nid oes gofyniad arnom i arddangos platiau (tacsi). Heddiw mae ein tîm profiadol yn rheoli swm uchel o archebion trwy dechnoleg integredig y cwmwl. Mae’n cyflenwi gwasanaeth o safon heb y costau cysylltiedig ac mae’n cyflawni enw heb ei ail.