Rayner Davies
A&R Contract Cleaning Specialists
Trosolwg:
PCwmni glanhau proffesiynol sy’n gweithredu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Abertawe a’r cylch.
Sectorau:
Manwerthu
Rhanbarth:
Pen-y-bont ar Ogwr

Mae A and R Cleaning Services Ltd yn gwmni glanhau proffesiynol sy’n gweithredu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Abertawe a’r cylch. Sefydlwyd y cwmni yn 2010, rydym yn dîm gŵr a gwraig sydd wedi caffael ar restr amrywiol ac urddasol o gleientiaid ac rydym wedi gwylio ein cwmni’n mynd o nerth i nerth. Erbyn hyn mae gennym 42 o gyflogeion, a phob un yn cynnig safon ardderchog o waith ac ymagwedd broffesiynol. Rydym yn darparu gwasanaethau glanhau domestig a masnachol i dros 150 o gwsmeriaid rheolaidd o ardal Caerdydd a De Cymru sydd oll yn gallu tystio i waith caled, safonau uchel a phroffesiynoldeb ein timau. Mae pob un o’n gweithwyr wedi’i hyfforddi i lefel uchel ym mhob maes glanhau a byddant yn glanhau yn ôl eich cyfarwyddyd. Mae ein gwasanaeth wedi’i deilwra i weddu dymuniadau ein cwsmeriaid.