Rhian Anderson
Bottles and Brushes
Trosolwg:
Mae Bottles and Brushes yn cynnal gweithdai misol yng Nghaerffili a Gogledd Llandaf gyda ffocws ar gynnig profiadau celf o ansawdd mewn amgylchedd anffurfiol lle gall pobl ymlacio.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerffili

Rwy’n Artist Cymunedol yn Ne Cymru gyda dros 10 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes Datblygiad Cymunedol. Ar ôl colli fy ngwaith yn 2016 defnyddiais fy ngwybodaeth am Ddatblygiad Cymunedol a fy niddordeb mewn Celf a dechreuais wneud gwaith gwirfoddol ar gyfer sefydliadau cymunedol lleol oedd yn darparu gweithdai Celf a Chrefft. Sylweddolais yn fuan y gallwn ennill bywoliaeth yn gwneud hyn, cofrestrais fel person Hunan Gyflogedig a mentrais. Daliais ati i weithio’n rhan amser ar gyfer Rhwydwaith Rhieni Caerffili am flwyddyn nes oedd yn haws cael gwaith fel gweithiwr llawrydd.

Wrth i amser fynd heibio, ym Mehefin 2017 rhoddais y gorau i fy swydd rhan amser gan ddod yn gwbl hunan gyflogedig. Erbyn hyn roedd gennyf nifer o wahanol rannau i fy musnes yn cynnwys gweithio fel Tiwtor Celf Llawrydd ar gyfer Sefydliadau Celf, darparu gweithdai Celf mewn Cartrefi Gofal Preswyl yn ogystal â datblygu Bottles and Brushes, De Ddwyrain Cymru gyda ffrind sy’n darparu gweithdai Celf cymdeithasol mewn nifer o leoliadau.

Erbyn hyn mae Bottles and Brushes yn cynnal gweithdai misol yng Nghaerffili a Gogledd Llandaf gyda ffocws ar gynnig profiadau celf o ansawdd mewn amgylchedd anffurfiol lle gall pobl ymlacio. Rydym yn cynnig gwydraid o win pefriog a danteithion wrth i’n cwsmeriaid gyrraedd ynghyd â’r holl ddeunyddiau a’r hyfforddiant. Mae ein tudalen facebook www.facebook.com/bottlesandbrushessewales yn dangos ein gwaith dros y 2 flynedd flaenorol. Hoffem ehangu i gynnig Cawodydd Babi, Partïon Plu a digwyddiadau corfforaethol.

Mae’r gwaith mewn Cartref Gofal Preswyl yn parhau gyda dosbarth rheolaidd yn Nhŷ Penrhos, Caerffili ac rwyf wedi datblygu perthynas weithio dda gyda dau Sefydliad Celfyddydau Cymdeithasol - Artis Community ac Inside Out Cymru. Rwy’n gallu gweithio yn ystod oriau’r ysgol ac yn mwynhau nôl a danfon y plant bob dydd a chymryd gwyliau yn ystod y rhan fwyaf o’r gwyliau ysgol.

Rwy’n hoffi disgrifio fy hun fel ‘Yr Entrepreneur Mwyaf Annhebygol’ ar ôl diystyru bod yn hunan gyflogedig pan gafodd hynny ei annog am y tro cyntaf yn ystod fy Ngradd Celf. Os alla i ei wneud….. gall unrhyw un!