Rhian Mannings photo
Rhian Mannings
2wish
Trosolwg:
Sylfaenydd a Phrif Weithredwr sefydliad ledled Cymru sy’n helpu cannoedd o deuluoedd bob blwyddyn sy’n profi colled sydyn a thrawmatig.

Ym mis Chwefror 2012 roedd Rhian newydd ddychwelyd i’r gwaith fel athrawes addysg gorfforol ar ôl cael ei mab ieuengaf, George, pan fu trasiedi yn ei theulu. Bu farw George yn sydyn heb unrhyw arwydd o salwch yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant ar 22ain Chwefror. Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, gwnaeth Paul, ei gŵr a Dadi ei thri phlentyn, gymryd ei fywyd ei hun yn sgil y trawma o golli eu mab.

Gwnaed y sefyllfa y canfu Rhian a’i gŵr eu hunain ynddi yn yr ysbyty, heb unman i alaru’n breifat a ffarwelio â’u mab, y drasiedi yn waeth. Ni chynigiwyd unrhyw gefnogaeth i’r teulu ac fe’u gadawyd i ddelio â cholli Paul a George ar eu pen eu hunain.

Wedi’i hysgogi gan awydd i sicrhau na fyddai eraill yn cael yr un profiad trychinebus ar ôl colli plentyn yn sydyn yn yr ysbyty, sefydlodd Rhian yr elusen galaru am blant, ‘2wish’. Hyd yn hyn, mae’r elusen wedi codi dros £1,800,000 yn gyfan gwbl o roddion bach gan y cyhoedd a chodi arian yn lleol ac mae 2wish bellach yn fudiad i Gymru Gyfan, sy’n helpu cannoedd o deuluoedd bob blwyddyn sy’n profi colled sydyn a thrawmatig.

Mae Rhian hefyd yn frwd iawn dros iechyd meddwl ac mae’n siarad yn rheolaidd am ei brwydrau ei hun ers colli ei bechgyn. Cymerodd ran mewn rhaglen ddogfen gan y BBC yn 2017, ‘Mind Over Marathon’, i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, ac mae’n siarad am iechyd meddwl ymysg dynion ac yn dilyn profedigaeth sydyn.

Ym mis Rhagfyr 2019 cydnabuwyd Rhian ar restr anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines a chafodd MBE am ei gwaith caled.

Erbyn hyn mae Rhian yn gweithio’n llawn amser yn 2 Wish Upon A Star ac mae’n benderfynol bod pob teulu yng Nghymru sy’n colli plentyn yn sydyn yn cael y gefnogaeth y mae wir yn ei haeddu. Mae cariad a balchder ei bechgyn, ynghyd â’i brwdfrydedd i lwyddo, wedi gweld yr elusen yn ffynnu ac o ganlyniad mae Rhian wedi cael ei chydnabod am ei gwaith caled ar sawl achlysur.

Enillydd Gwobr Rhoi Ychwanegol Halifax 2014

Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn CGGC 2014 Canmoliaeth Uchel

Enillydd Gwobr Dewi Sant am Ddinasyddiaeth 2015

Enillydd Gwobr Pwynt Goleuni 2015 y Prif Weinidog

Gwobr Arweinyddiaeth yn y Sector Gwirfoddol 2015 Canmoliaeth Uchel

Enillydd Gwobr Merched sy’n Ysbrydoli 2016 Chwarae Teg

Enillydd Gwobr Dweud eich Dweud MIND 2017

Gwobr Seren er Anrhydedd Bwrdd Iechyd Cwm Taf 2017

Gwobr Pride of London 2018

Gwobr Partneriaeth Heddlu Dyfed Powys Sir Benfro 2019

Enillydd Gwobr Arweinydd Elusen Introbiz y Flwyddyn 2019