Bambŵ i bawb: Myfyrwraig o Llantrisant yn sefydlu cwmni cewynnau bambŵ moesegol
Mae myfyrwraig ifanc o Lantrisant yn benderfynol o daclo problemau amgylcheddol y byd gyda’i busnes newydd o wneud cewynnau, neu glytiau babanod, y gellir eu hail ddefnyddio allan o fambŵ sy’n cael ei dyfu’n foesegol yn Uganda.
Mae Rhiannon Williams, 21 oed, wedi sefydlu Babanod Bambŵ, cwmni y mae cynaliadwyedd yn greiddiol iddo sydd, yn lle gwneud cewynnau o ddeunyddiau nad ydyn nhw’n pydru, yn gwneud rhai y gellir eu hail ddefnyddio allan o fambŵ yn cael eu tyfu ar ffermydd yn Uganda.
Ac, yn annhebyg i fathau eraill o gewynnau ailddefnydd sy’n cael eu gwneud fel arfer o gotwm, mae cewynnau Babanod Bambŵ yn dal llawer mwy o hylif yn ogystal ag achosi llai o frech ar y croen.
Daeth ei syniad busnes i Rhiannon wrth astudio modiwl busnesau cynaliadwy moesgol ar ei chwrs Sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor. Daeth ei hysbrydoliaeth o'i dyhead i daclo’r argyfwng llygredd gwastraff byd-eang, y mae cewynnau un defnydd yn cyfrannu’n helaeth ato, yn ogystal ag o ddylanwad ei mam oedd wedi ceisio defnyddio cewynnau ail ddefnydd pan oedd Rhiannon yn faban.
Meddai Rhiannon: “Er fod fy mam yn gwneud ei gorau i ddefnyddio cewynnau ail ddefnydd, roedd y denuydd cotwm yn codi brech ddrwg ar fy nghroen a, gan nad oeddwn nhw'n dal fawr ddim hylif, roedden nhw'n anymarferol. I mi, mae’n hollol amlwg y dylid defnyddio bambŵ, mae’n dal llawer o hylif ac yn tyfu’n gyflym ar ôl ei gynaeafu a heb angen ei ddyfrio, plaladdwyr na gwrtaith.
“Mewn gwirionedd, mae’n fodel hynod o dda i leihau ein hôl troed carbon a hefyd i weithio gyda phobl Uganda i dyfu bambŵ ar ffermydd lle mae yna dir nad yw'n cael llawer o ddefnydd.
Bydd y pobl Uganda’n cael eu cyflogi i dyfu’r bambŵ ac i wneud y cewynnau, cyn eu mewnforio i wledydd Prydain. Mae Rhiannon mewn cysylltiad â chwmnïau cydweithredol yn Uganda, sy’n gweithredu ar sail Masnach Deg. Mae’n ffyddiog y bydd hynny’n rhoi cryn fantais iddi yn y farchnad, yn enwedig dros gynnyrch sy'n dibynnu ar gyflenwadau o ddiwydiannau yn Tseina.
Meddai ymhellach: “Mae’r farchnad gewynnau'n werth mwy na £470 miliwn y flwyddyn yng ngwledydd Prydain, eto dim ond 2% o ddefnyddwyr sy'n dewis rhai ail ddefnydd. Er bod rhaid talu'n ddrutach wrth brynu’r cewynnau yn y lle cyntaf, mae eu hail ddefnyddio’n eu gwneud yn rhatach. A chyda chymaint o rybuddion byd-eang ynghylch defnyddio chynnyrch nad yw’n pydru ac effeithiau hynny ar ein hamgylchedd, rwy’n gobeithio y bydd pobl yn dechrau dewis eu cynnyrch yn fwy cydwybodol”.
Erbyn hyn mae Rhiannon yn astudio am radd Meistr mewn Herpetoleg ym Mangor ac, yr un pryd, yn datblygu Babanod Bambŵ.
Ffurfiwyd Babanod Bambŵ gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru. Anogodd tîm menter Prifysgol Bangor Rhiannon i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Dathlu Syniadau Mawr yn gynharach eleni ym Mangor, digwyddiad cenedlaethol i egin entrepreneuriaid ifanc i gynnig eu syniadau busnes, datblygu eu sgiliau entrepreneuraidd a dechrau magu rhwydwaith o gysylltiadau. Cyflwynodd Rhiannon ei syniad busnes i gymysgedd o bobl fusnes llwyddiannus a’i chyfoedion, gan dderbyn adborth cadarnhaol ynghylch eu menter.
Meddai Lowri Owen o dîm menter Prifysgol Bangor: Mae Rhiannon wedi taro'r hoelen ar i phen gyda'i busnes ar adeg pan mae'n rhaid i ni i gyd ddechrau bod yn fwy cydwybodol ynghylch y cynnyrch rydyn ni'n ei brynu a allai effeithio ar yr amgylchedd yn y tymor hir.
“Mae’n amlwg fod gan Rhiannon ben busnes a hefyd angerdd at gadwraeth, sy'n golygu fod gan Babanod Bambŵ gyfle da o fod yn llwyddiant gwych gyda Rhiannon wrth y llyw."