Richard Bowen
Celtic Geophysics Ltd
Trosolwg:
Geo-wyddonydd archwilio hunan-gyflogedig
Sectorau:
Adeiladu
Rhanbarth:
Abertawe

Pan roeddwn yn ifanc roeddwn eisiau swydd lle gallwn deithio'r byd i archwilio pethau cyffrous. Nawr fy mod i’n geoffisegydd archwilio hunan-gyflogedig: yr hyn dw i'n ei wneud yw astudio wyneb y ddaear i gael gwybod beth sy'n digwydd oddi tano, felly mae wedi mynd â mi i bob man, gan ddarparu gwasanaethau i'r diwydiannau peirianneg sifil, amgylcheddol ac archwilio mwyngloddiau.

Dylech gynnal busnes wyneb yn wyneb bob amser, a bod yn agored i syniadau newydd

Richard Bowen - Celtic Geophysics Ltd

Gan mod i'n berchen ar fy musnes fy hun, mae’n golygu y gallaf reoli fy nhynged – gyda phwy rydw i’n gweithio, pryd ac ym mhle. Mae hefyd wedi golygu mod i’n gallu archwilio syniadau busnes eraill. 

Ebost: richard@walescottages.com