Richard Strudwick
Enterprise Rich
Trosolwg:
Rhaglenni datblygu a hyfforddi unigryw i helpu unigolion i wneud penderfyniadau rhagweithiol a deallus am eu dyfodol
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Caerdydd

Mae Enterprise Rich yn cynnal rhaglenni datblygu a hyfforddi unigryw i helpu unigolion i wneud penderfyniadau rhagweithiol a deallus am eu dyfodol.

Rydyn ni'n arbenigo mewn addysg am fentrau, datblygu graddedigion a rhaglenni arbrofol. Mae ein cleientiaid yn cynnwys cwmnïau FTSE 100 fel Barclays a Channel 4, elusennau cenedlaethol fel vInspired a Youth Business International, yn ogystal ag ysgolion, colegau a phrifysgolion.

"Rhowch gynnig ar bethau! Os oes gennych syniad, ystyriwch ef o ddifrif, meddyliwch sut allai weithio, a rhowch gynnig arni."

Richard Strudwick - Enterprise Rich

Rydw i wastad wedi bod eisiau rhedeg fy musnes fy hun, ond doeddwn i ddim yn siŵr ym mha faes y dylwn arbenigo ynddo. Ar ôl ennill gradd mewn athroniaeth a threulio dwy flynedd ym maes gwerthiant a marchnata, sylweddolais mai galluogi pobl ifanc i lywio eu dyfodol eu hunain oedd y maes oedd agosaf at fy nghalon.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, rydych yn dysgu llawer iawn am beth sydd ei angen ar eich cynulleidfa a chleientiaid posibl, pwy ydyn nhw, a beth maen nhw'n ei ddweud. Mae'n dangos i chi beth sydd gennych chi a'ch busnes i'w gynnig ac i ba gyfeiriad yr ydych yn mynd.

Cael y cydbwysedd cywir rhwng eich gweledigaeth a'r hyn mae'r farchnad ei eisiau yw'r gyfrinach.

Rydw i wrth fy modd fy mod yn gallu rheoli fy amser fy hun. Gan amlaf, mae gweithio i chi eich hun yn golygu eich bod yn gweithio oriau hirach a mwy o ddiwrnodau na fyddech pe byddech yn gweithio i rywun arall. Yr hyn sy'n bwysig yw bod fy musnes yn rhoi imi y rhyddid, yr incwm, y boddhad a'r mwynhad yr oeddwn wedi gobeithio eu cael yn wreiddiol. Rydych yn dysgu'n barhaus drwy gydol y broses, ac rydych yn dysgu mwy o'ch camgymeriadau na'r pethau yr ydych yn eu gwneud yn gywir.

Mae pobl eisiau prynu pethau gan bobl wych. Felly, os gallwch ddangos beth sy'n eich gwneud chi yn wych, bydd hynny'n gwneud eich busnes yn llawer mwy deniadol. Rydw i wrth fy modd yn rhannu'r egni a'r brwdfrydedd sydd gen i ynghylch mentrau, busnesau a dysgu.

Rydw i wedi gwneud bywoliaeth o helpu pobl i ddatblygu. Felly, os alla i annog pobl eraill i fentro, mae hynny'n wych.