Richard Turner
Richard Turner
Eysys ltd
Trosolwg:
Cwmni technoleg sy'n tyfu'n gyflym
Sectorau:
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Rhanbarth:
Caerdydd

Rydw i'n gyfranddaliwr mewn nifer o gwmnïau, gan gynnwys rhai newydd a rhai sy'n achub busnesau rhag mynd i'r wal.

Eysys yw'r mwyaf o'r rhain (o ran nifer y gweithwyr a gwerth). Mae Eysys yn gwmni technoleg sy'n tyfu'n gyflym. Mae'n defnyddio cyfuniad o arbenigedd eFasnach a'n meddalwedd arloesol ein hunain, Holistic, sy'n seiliedig ar ddysgu peirianyddol er mwyn prynu cymaint â phosibl ar wefannau eFasnach.

"Byddwch yn uchelgeisiol! Byddwch yn gadarnhaol. Byddwch yn realistig. Byddwch yn hyblyg"

Richard Turner - Eysys ltd

Rydw i wedi gweithio ym maes TG teithio ers dros ugain mlynedd, ac ro'n i'n wyneb cyfarwydd yn y diwydiant hamdden. Ym 1998, fe sefydlais LNS gyda Simon Powell a buan iawn yr enillodd ei blwyf fel y cwmni adwerthu mwyaf blaenllaw ym maes teithio ym marchnad y DU. Yn 2008, fe symudais gyda Comtec i UDA a'i sefydlu yn yr Americas.

 

Ar ôl ennill blynyddoedd lawer o brofiad llwyddiannus ym maes TG a gweithrediadau busnes, fe adewais Comtec a dechrau busnes newydd.

Rydw i wastad wedi bod yn awyddus i lwyddo. Rydw i wedi gweithio yn y DU a thramor, ac rydw i wedi cael profiad o ymagweddau diwylliannol amrywiol. Un o'r pethau pwysicaf rydw i wedi'i ddysgu yw bod gan gysylltiadau mewnol ac allanol rôl hollbwysig a bod angen eu datblygu a'u rheoli'n barhaus.

Rydw i wrth fy modd yn gweithio gyda phobl i helpu busnesau i dyfu a llwyddo a dylanwadau ar benderfyniadau pwysig gan dimau. Un o'r pethau pwysicaf rydw i wedi'i ddysgu yw bod angen i chi fod yn hyblyg wrth reoli cyfleoedd busnes newydd a chynnal y ffocws craidd. Mewn busnes, mae pethau bob amser yn cymryd mwy o amser na'r hyn yr oeddech wedi'i ragweld yn wreiddiol.

Cadwch drefn ar bethau ac, yn bwysicaf oll, cadwch lygad barcud ar eich sefyllfa ariannol.


Cysylltu gyda Richard