Rifhat Qureshi
Rifhat Qureshi
Rifhat Qureshi
Trosolwg:
Hyfforddwr busnes a datblygiad personol
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Caerdydd

Mae Rifhat yn hyfforddwr busnes a datblygiad personol. Mae ganddi dros 20 mlynedd o wybodaeth theoretig ac ymarferol am entrepreneuriaeth, yn ogystal â phrofiad o ddarparu hyfforddiant datblygiad personol ac arweinyddiaeth i unigolion o bob cefndir. Ym mis Ionawr 2023, rhoddodd Rifhat y gorau i’w swydd fel Prif Swyddog Gweithredol y cwmni, Modest Trends London.

Mae Rifhat yn credu ei bod hi’n bwysig grymuso unigolion, a hynny drwy gynnig rhagor o ddewisiadau iddynt ym mhob agwedd ar eu bywydau. Mae hi’n frwd dros dwf personol, ac yn gweithio gyda menywod ledled y byd i’w hysbrydoli, eu haddysgu a’u cefnogi wrth iddynt deithio drwy fywyd. Yn 2018, cyflwynodd sgwrs TED o dan y teitl “Hunan-gred – Sut y Gall Newid Eich Bywyd” gyda’r nod o ysbrydoli eraill i sylweddoli’r cyfraniad y gallent ei wneud i’r byd.  

Ar ddechrau ei gyrfa, bu Rifhat yn gweithio fel darlithydd busnes cyn symud i Wasanaeth Datblygu Sgiliau Prifysgol Caerdydd lle cafodd gymhwyster mewn hyfforddi a mentora. Yna, symudodd i’r adran Fenter fel ymgynghorydd a hyfforddwr sgiliau busnes. Yn 2022, enillodd MSc mewn Strategaethau Busnes ac Entrepreneuriaeth – uchelgais gydol oes a gyflawnwyd yn gynt na’r disgwyl oherwydd y pandemig.

Er bod Rifhat yn arbenigo mewn sgiliau entrepreneuriaeth, mae ei hyfforddiant yn seiliedig ar feddylfryd, twf personol, a chynlluniau gweithredu.