Rob Lester
Rob Lester
Moral Training & Development
Trosolwg:
Hyfforddi & Datblygu
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol

Mae Moral Training & Development yn darparu cyfle i chi’ch datblygu eich hun, eich pobl a’ch busnes. Cydweithio i ganiatáu i unigolion a thimau fod yn hapus wrth fod yn nhw eu hunain – gwireddu eu potensial.

Cychwynnais fy musnes ar ôl dileu fy swydd mewn gyrfa flaenorol. Cefais yr ysbrydoliaeth drwy ofyn y cwestiwn "Beth ydw i’n mwynhau ei wneud go iawn?" Yr ateb oedd helpu, datblygu a chefnogi eraill felly penderfynais fynd amdani.  Cefais help a chefnogaeth gan Busnes Cymru a HSBC ac wedyn mentro.

Y peth gorau o ran bod yn fòs arnaf i fy hun yw fy mod yn gallu gosod yr agenda i mi fy hun. Rydw i’n rheoli fy amser a beth rydw i’n ei wneud a sut rydw i’n ei wneud ac rydw i hefyd yn penderfynu’r amrywiaeth o waith.

Wrth ddod yn berchennog busnes am y tro cyntaf, roedd nifer o broblemau i’w datrys fel cyfrifyddu, cyllid ac effaith y cyfnod clo COVID. Rydw i wedi trechu’r rhwystrau hyn drwy aros yn gadarn a hyderus a chydweithio â phobl dda gefnogol.

Fy nghyngor pennaf i entrepreneuriaid ifanc yw ymchwilio i bob posibiliad a chwilio am gymorth – mae hwnnw ar gael – a gwneud beth bynnag rydych chi’n mwynhau ei wneud.