Rob Petersen
Petersenspr
Trosolwg:
Marchnata, hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus ar gyfer amrywiaeth o fudiadau
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Caerdydd

Dechreuais fy musnes fy hun pan brynais yr asiantaeth gyfathrebu yr oeddwn yn ei rhedeg – roedd y perchnogion Americanaidd wedi gofyn i mi ddiswyddo 25% o'r staff. Deuthum yn entrepreneur yr eiliad honno, a thyfodd y busnes dros y 10 mlynedd nesaf hyd nes ei fod wedi cael trosiant o £1 miliwn a mwy. 
 
Os oes gennych angerdd am syniad ac yn credu bod cyfle busnes, peidiwch â gadael i bobl eraill eich stopio rhag gwireddu eich breuddwyd. 
Rob Petersen - Petersenspr
 
Bellach, mae Petersenspr, sydd wedi ennill gwobrau, yn cynnig cyngor busnes ar farchnata, hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus ar gyfer amrywiaeth o sefydliadau yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU. Bu heriau ar hyd y ffordd, gan gynnwys cyllid banc, personél ac ymyrraeth corfforaethol. Rwyf wedi dysgu chwilio am gyfleoedd busnes bob amser, dim ots pa mor brysur ydych chi, a dw i byth yn cymryd unrhyw gleient yn ganiataol.