Robert Boyns
Boyns Information Systems Ltd
Trosolwg:
Cwmni ymgynghori sy’n helpu defnyddwyr busnesau
Sectorau:
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Rhanbarth:
Sir Ddinbych

Rydym yn ymgynghoriaeth ac yn gefnogaeth ar gyfer defnyddwyr busnes. Rydym yn darparu ystod eang o gynnyrch a gwasanaethau i gwsmeriaid busnes, masnach a manwerthu. 
 
Rydym wedi bod yn masnachu ers 1996 ac yn cyflogi staff lleol medrus a hyfforddedig.
 
Mae cael cydbwysedd yn eich tîm yn hanfodol. Rhaid i chi gael y bobl iawn yn gweithio i chi.
Robert Boyns - Boyns Information Systems Ltd
 
Graddiais ym 1992 o Brifysgol Cymru, Aberystwyth gydag MSc mewn Cyfrifiadureg. Bûm yn gweithio i NEWI ar ôl y brifysgol, lle gwelais fwlch yn y farchnad. Roedd ffrindiau a phobl yr oeddwn yn eu hadnabod wastad yn gofyn i mi am gymorth neu gyngor ar faterion TG. Ym 1996, sefydlais fy hun fel unig fasnachwr mewn busnes TG rhan-amser. Ar ôl torri fy nghoes wrth chwarae rygbi i Rhuthun ym mis Rhagfyr 1999, gyda thri mis i ffwrdd o'r gwaith i ddilyn, cefais amser i feddwl am fy nyfodol. Fel mae’n digwydd, trodd hyn allan i fod yn fendith. 
 
Yn 2003, ffurfiais Boyns Information Systems fel cwmni cyfyngedig a heddiw rwy’n cyflogi pump o staff llawn amser a thri rhan-amser, gan gynnig ystod eang o wasanaethau a chynnyrch sy’n gysylltiedig â TG (gan gynnwys CP brand ein hunain) i ddefnyddwyr cartref a busnesau bach, gan gynnwys y sectorau amaethyddol, addysg, gwasanaethau, gweithgynhyrchu, manwerthu, gwestai a phroffesiynol. 
 
Gwefan: www.boyns.net