Russell Davies
Lobster Digital Marketing
Trosolwg:
Cwmni Marchnata
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Caerdydd

Manteisiais ar y cyfle i gychwyn Lobster pan gollais fy ngwaith gyda chwmni meddalwedd. Yn y dechrau, roeddwn eisiau gwerthu datrysiadau meddalweddond dechreuais gael cymaint o atgyfeiriadau ar gyfer gwefannau nes ein bod wedi canolbwyntio ar hynny. Ymhen hir a hwyr, cafodd y busnes ei ail-frandio fel Lobster Digital Marketing Limited er mwyn adlewyrchu ochr marchnata cyfryngau cymdeithasol cynyddol y busnes.

Ni fu erioed amser gwell na mwy o gyfleoedd i gychwyn busnes. Os ydych yn ifanc, mae gennych amser i wneud camgymeriadau, felly ewch amdani.

Russell Davies - Lobster Digital Marketing

Roedd yn hynod o straen ar y dechrau gan fy mod yn dysgu wrth fynd ymlaen yn y swydd, ond roedd yn wobrwyol iawn hefyd. Rwyf wedi mynd yn fwy gofalus o ran gyda bwy y dylwn weithio ar ôl cael fy ngadael mewn sefyllfa anodd pan aeth cyflenwr cynnal gwefannau yn fethdalwyr.

Gwefan: lobsterdigitalmarketing.co.uk