Russell Isaac
Sports Media Services
Trosolwg:
Cwmni cynhyrchu cyfryngau sy’n arbenigo mewn rhaglenni chwaraeon a rhaglenni dogfen
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Pen-y-bont ar Ogwr

Gweithiais ym myd Teledu a Radio ar gyfer ITV, BBC a nifer o gwmnïau cynhyrchu annibynnol fel newyddiadurwr, cyflwynydd a chynhyrchydd newyddion, materion cyfoes, rhaglenni dogfen a rhaglenni chwaraeon.   Roeddwn yn bennaf yn ohebydd tramor yn gweithio o rannau'r byd lle'r oedd gwrthdaro rhwng 1982 a 1996 cyn dod yn gyflwynydd stiwdio ac ymgynghorydd cyfryngau, a sefydlais fy nghwmni fy hun yn 1997.

Byddwch ag angerdd am eich diddordeb neu fusnes, gwnewch eich gwaith cartref, gweithiwch gyda phobl sy'n eich parchu ac ewch amdani!

Russell Isaac - Sports Media Services

Mae Sports Media Services yn gwmni cynhyrchu cyfryngau sy'n arbenigo mewn rhaglenni chwaraeon a dogfen.   Ar hyn o bryd ni sy’n cynhyrchu’r cynnwys ar gyfer URC, Stadiwm y Mileniwm a'r R&A ym Mhencampwriaeth Agored Golff.  Rydym hefyd yn cynnal ymgynghoriaethau cyfryngau mewn nifer o wledydd ar gyfer sefydliadau megis Swyddfa Dramor Prydain, y Cenhedloedd Unedig, yr OSCE a'r Undeb Darlledu Asiaidd.   Mae bod yn siaradwr Cymraeg yn helpu rhoi persbectif lleiafrifol ar y byd a balchder yn fy iaith a fy ngwreiddiau dosbarth gweithiol yn y Rhondda.