Ryan Stephens
Ryan Stephens
Ryan Stephens Mindset Coach
Trosolwg:
Rydw i’n Hyfforddwr Meddylfryd sy’n helpu pobl i oresgyn heriau personol er mwyn iddyn nhw gael rhagori.

Rydw i’n Hyfforddwr Meddylfryd sy’n helpu pobl i oresgyn heriau personol er mwyn iddyn nhw gael rhagori. Mae fy meysydd arbenigedd yn cynnwys;

-           Hyfforddiant Meddylfryd

-           Mentora Dechrau Busnes

-           Marchnata a’r Cyfryngau Cymdeithasol

-           Sgiliau Cyfathrebu

-           Cyngor ac Arweiniad ar gyfer bywyd a gwaith

Rwy’n cynnig Hyfforddiant Meddylfryd ac Atebolrwydd un-i-un neu mewn grŵp, ac yn rhoi cymorth i bobl oresgyn rhwystrau neu heriau yn eu bywydau. Rwy’n gwneud hyn drwy gymorth, cyngor ac arweiniad wedi’u teilwra.

Dechreuais y busnes oherwydd roeddwn i wedi sylweddoli mai un o’m prif ddibenion mewn bywyd yw helpu pobl eraill. Roeddwn i hefyd yn gwybod nad oeddwn i eisiau gweithio i rywun arall am byth. Ym mis Hydref 2020, penderfynais fentro a mynd yn hunangyflogedig unwaith yn rhagor, gyda’r bwriad o beidio â dychwelyd i weithio i rhywun arall eto.

Mae’r heriau rwyf wedi eu hwynebu fy hun yn fy mywyd wedi fy ysgogi i helpu pobl eraill ac i chwarae fy rhan er mwyn gwneud y byd yn lle gwell i fyw ynddo. Mae pobl fel Tony Robbins, David Goggins, Wim Hof a phobl eraill wedi fy ysbrydoli i fod eisiau helpu pobl a gwthio fy hun yn barhaus er mwyn cyflawni pethau gwell mewn bywyd.

Pan ddechreuais i fy musnes hyfforddi, roeddwn i wedi penderfynu gadael fy swydd amser llawn ym Mhrifysgol Abertawe, a oedd yn talu’n dda iawn. Doedd gen i ddim cefnogaeth ariannol na chynilion, ond roeddwn i’n gwybod mai dyma beth oeddwn i eisiau ei wneud. Roedd yn rhaid i mi weithio mewn swyddi rhan amser am gyfnod byr, tra roeddwn i’n adeiladu fy musnes hyfforddi. Dyma’r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed.

Yn bersonol, y peth gorau am fod yn reolwr arnoch chi eich hun yw mai dim ond chi sy’n gyfrifol am bopeth sy’n cael eu gwneud neu sydd heb gael eu gwneud. Rhaid i chi fod yn barod i wneud y gwaith oherwydd does neb arall am eich achub chi. Mae hynny’n gallu bod yn ffordd frawychus o feddwl, ond mae hefyd yn gallu bod yn gyffrous ac yn ysgogi cymhelliant. Rydych chi hefyd yn cael y fraint ychwanegol o deimlo’n hapus amdanoch chi eich hun pan fyddwch chi’n sylweddoli bod y canlyniadau rydych chi’n eu cael wedi deillio o’ch penderfyniad chi i fentro rhywbeth newydd.

 

CYNGOR CAMPUS I ENTREPRENEURIAID IFANC

Ewch ati i wireddu eich gwerthoedd a phwy ydych chi. Bydd hyn yn eich helpu i gael eglurder ynghylch y pethau dylech chi eu gwneud, ac i bennu PWRPAS y busnes rydych chi eisiau ei ddechrau neu’r swydd rydych chi’n gwneud cais amdani. Os nad ydych chi’n gwybod eich pwrpas o wneud rhywbeth, sut ydych chi’n disgwyl i unrhyw un arall wybod hynny?