Sarah Finnamore
Upsa-Daisy Day Nursery
Trosolwg:
Meithrinfa i blant
Sectorau:
Gwasanaethau Gofal
Rhanbarth:
Sir Fynwy

Ro'n i wastad yn gwybod mod i eisiau gweithio gyda phlant. Felly, ar ôl gadael yr ysgol, fe astudiais ar gyfer fy niploma mewn gofal plant mewn coleg.  Pedair blynedd yn ddiweddarach, ro'n i wedi cwblhau fy ngradd mewn Astudiaethau Cynradd ym Mhrifysgol Caerllion ac fe es i weithio mewn ysgol gynradd leol.

"Mae wedi bod yn waith blinedig ond rydw i wrth fy modd!"

Sarah Finnamore - Upsa-Daisy Day Nursery

Pan oeddwn yn y brifysgol, ro'n i'n gwybod mod i eisiau dechrau fy musnes fy hun, ond cymerodd ddwy flynedd arall imi ymchwilio i'r syniad, cwblhau cynllun busnes a dod o hyd i leoliad addas. 

Cefais gymorth grant dechrau busnes gan y llywodraeth oedd yn cynnwys cymorth gan diwtor.  Yn 2006, cymerais yr awenau mewn busnes oedd eisoes wedi ennill ei blwyf.

Ers hynny, rydw i wedi gweithio 12 awr y dydd, cynyddu nifer y plant, recriwtio staff da yn ogystal â chreu enw da.