Sena Tengey
Diamond Tennis Academy
Trosolwg:
Academi tennis sy'n cynnig hyfforddiant o safon i'r gymuned gyfan.
Sectorau:
Gofal iechyd a gofal cyflenwol
Rhanbarth:
Caerdydd

Fe ddechreuais hyfforddi tennis dros 10 mlynedd yn ôl. Rydw i wastad wedi bod yn 'hunangyflogedig', ond ro'n i'n gweithio gyda chlybiau eraill ar y dechrau ac ro'n i'n brif hyfforddwr i nifer o glybiau.

A minnau wedi gweithio i glybiau eraill, fe benderfynais ddechrau'r Diamond Tennis Academy yn 2008. Rydw i'n gweithio gryn dipyn gydag ysgolion, grwpiau cymunedol yn ogystal â hyfforddi hyfforddwyr eraill. Rydyn ni hefyd yn darparu gwersi tennis preifat a gwersi i grwpiau. Ein nod yw cynnig hyfforddiant o safon y gall y gymuned gyfan fanteisio arno a'i fwynhau.

"Mae cyfle bob amser i ddechrau eich busnes eich hun – hyd yn oed yn ystod cyfnod economaidd anodd."

Sema Tengey - Diamond Tennis Academy

 

Rwy'n cael llawer o fy ysbrydoliaeth gan fy mentor tenis sydd wedi dysgu llawer i mi amdanaf fy hun a sut i ddatblygu mewn nifer o ffyrdd.

Pan oeddwn yn astudio fy ngradd, roedd yn rhaid i mi wneud prosiect am sut i ddechrau busnes gyda £10,000. Busnes hyfforddi tennis oedd pwnc fy mhrosiect, felly rydw i wedi troi'r syniad yn fusnes go iawn.