Llun Seth Oliver
Seth Oliver
Fizzi Productions Ltd / Four Bars
Trosolwg:
Ymgynghorydd Ymchwil Seiliedig ar y Celfyddydau a Gweithredu, Digwyddiadau a Chynhyrchu Ffilmiau
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerdydd

Mae Seth yn Gyfarwyddwr cwmni Cynhyrchu Digwyddiadau a Ffilm, ac yn ymgynghorydd arloesol ym maes Gweithredu Perthynasol -  maes sy’n datblygu ac sy’n gwneud i newid ddigwydd drwy berthnasau personol ac anffurfiol -  (‘Relational Activism’) trwy Four Bars.

Mae’n un o sylfaenwyr Future Matters Collective’, Caerdydd, ac mae galw am ei wasanaeth fel mentor busnes ac ysgogwr Pobl Ifanc. 

Fel arweinydd Fizzi Production Limited, mae gan Seth dros 25 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn Cynhyrchu Digwyddiadau, o ddigwyddiadau corfforaethol ar raddfa fawr, i fentrau llawr gwlad, a phopeth yn y canol. 

 Arbenigodd i ddechrau mewn digwyddiadau theatrig ar raddfa fawr, ar adegau yn cyfarwyddo miloedd o blant a phobl ifanc ar yr un tro, ond treuliodd bum mlynedd fel eiriolwr person ifanc i rai o blant a phobl ifanc mwyaf bregus cymdeithas. Mewn sefyllfaoedd sy’n aml yn gofyn am ystod eang o sgiliau, gallu Seth i gyfarfod pobl lle maen nhw , yw ei allu rhyfeddol sy’n dod i’r amlwg.  

 Yn ystod ei yrfa brysur, mae Seth wedi gweithio i sefydliadau megis Cyngor Camden, Tros Gynnal Plant, Casnewydd, Science Shops Wales, Canolfan Mileniwm Cymru, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Cyngor Economaidd ac Ymchwil Cymdeithasol, Promo Cymru, Neuadd Frenhinol Albert ac Opera Cenedlaethol Cymru. 

 Yn fwy diweddar, mae gwaith ymgynghorol Seth yn ei alluogi i gyfuno ei brofiad eang mewn Digwyddiadau gyda’i angerdd am ddulliau creadigol a newid cymdeithasol.

 Trwy FIZZI, ac yn fwy diweddar trwy ail lansiad brand y Four Bars, gweithia Seth gyda chleientiaid i greu: 

Rhaglenni ymchwil gweithredol yn y Celfyddydau sy’n canolbwyntio ar y person cyfan, gan weithio gydag ystod amrywiol o bobl a’u darparu ar eu cyfer.

Cyflwyniad an-hierarchaidd nid cynrychiolaeth. 

Creu ‘mannau diogel” ar gyfer cymryd rhan, bod yn dyst i, a “chyfathrebu nas camystumir”. (Habermas).

Gwerthoedd perthynol cywir a chyfunol. 

Gwerthoedd cynhyrchu seiliedig ar gryfderau ar bob cam o’r prosiect.

  

Mae Seth yn cyflwyno gweithdai ledled y byd, yn cynnwys yn: “Constructing Social Futures”, (Prifysgol Turku, Ffindir),  “Anticipation” (Oslo, Norwy),  “Promising Futures” (Goldsmiths, Llundain)...

 Mae Rhaglenni Ymchwil Seiliedig ar Gelf diweddar a phresennol Seth yn gyd-gynyrchiadau gyda chleientiaid fel:

NFJO,

PSP - Public Service Pioneers  

Adran y Gyfraith, Prifysgol Bryste (Productive Margins); Coma and Disorders of Consciousness Research Centre (“The Art of Dying”); 

Mae Cynghrair Phizer Lily (Alliance) mewn partneriaeth â Sefydliad Poen Ewropeaidd (European Pain Foundation)(Cyd-gynhyrchu addysg ar-lein am osteoarthritis a phoen ar gyfer oedolion ifanc sy’n dioddef o dysplasia’r clun “COPE for hips”), Disability Cymru (Frailty), ac AGENDA a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau...