Shamaine Robinson
Inspiring Your Life
Trosolwg:
Cwmni ymgynghori sy’n arbenigo mewn helpu cwmnïau bach
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Pen-y-bont ar Ogwr

Roedd yr ysgol yn anodd i mi – ni wnaeth helpu fy mod wedi mynychu saith ysgol wahanol, ac ysgariad fy rhieni. Ar ôl gyrfa cynnar aflwyddiannus, symudais i Lundain ar fympwy i geisio newid fy mywyd. Roeddwn yn ffodus iawn i weithio mewn marchnata ar gyfer rhai o gwmnïau mwyaf y byd, ond ro’n i bob amser eisiau fy musnes fy hun. 
 
Dysgwch o'ch methiannau a symudwch ymlaen.
Shamaine Robinson - Inspiring Your Life
 
Yn 2000, prynais fasnachfraint, ond fe wnes i wynebu mwy o anawsterau - cefais fy anafu mewn ymosodiad bom IRA, a bu rhaid i mi symud yn ôl i Gymru a datgan fy mod yn fethdalwr. Yna, dechreuais ymgynghoriaeth sy'n arbenigo mewn helpu cwmnïau bach i weld sut y gall marchnata ddod â chleientiaid a helpu i gynhyrchu elw.