Sharone Williams
Living Solutions
Trosolwg:
Dylunio cynnyrch a gwerthiant
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Bro Morgannwg

Ro'n i'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Bont-faen, ond ni chefais y cyfle i fynd i brifysgol. Fe wnes i briodi'n ifanc a chael 3 o blant. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd fy ngŵr yn berchen ar Asiantaeth Tai, ac roedd gen i awydd gwneud rhywbeth fy hun.

"Gwnewch eich ymchwil am y farchnad a gwnewch yn siŵr bod popeth yn ei le cyn dechrau eich busnes."

Sharone Williams - Living Solutions

Ym 1993, fe benderfynais ddechrau fy musnes fy hun yn gwerthu sgarffiau, gemwaith ac ategolion.

Daeth i'r amlwg imi fod llawer o bobl yn hoffi fy nghynnyrch, felly penderfynais fynd i mewn i faes corfforaethol gan gynnwys gemwaith, teis i ddynion, sgarffiau a mentyll.

Fy ngŵr wnaeth fy ysbrydoli fwyaf. Ro'n i wastad yn mwynhau ac yn cael gwefr o'i wylio yn cyflawni ei dargedau yn ei fusnes ei hun. Mae fy musnes wedi datblygu ac ehangu'n aruthrol.

Mae gen i gwmni datblygu eiddo hefyd a sefydlwyd 8 mlynedd yn ôl. Rwy'n mwynhau datblygu syniadau newydd, a dechrau prosiect newydd yw'r her fwyaf pan ydych yn gweithio i chi eich hun.