Shoned Owen
Shoned Owen
Tanya Whitebits Ltd
Trosolwg:
Manwerthwyr lliw haul ffug
Sectorau:
Manwerthu
Rhanbarth:
Gwynedd

Dechreues i fy nhaith gyffrous ar ôl mynychu Cymhwyso Lliw Haul Chwistrelliad Proffesiynol. Es i ati i wneud cymhwyso Lliw Haul ar sail symudol gyda’r noson yn ogystal â gweithio’n amser llawn a cheisio cydbwyso bywyd teuluol. Dechreues i’r busnes fel rhywbeth ar yr ochr ac roeddwn i am alw rhywbeth bythgofiadwy ac anghyffredin arno ac roeddwn i wrth fy modd ar ystyr dwbl haerllug Tanya Whitebits.

Tyfodd fy sylfaen gwsmeriaid yn gyflym iawn, a phenderfynes i agor stiwdio gartref. Gan arbenigo mewn Cymhwyso Lliw Haul Chwistrelliad Proffesiynol a lliw haul cyfuchlin 3D, es i’n arbenigwr yn y maes, perffeithiais fy nhechneg ac roedd gen i gleientiaid a oedd yn teithio o bell am eu lliw haul.

Yn ystod y cyfnod hwn, rhoddais brawf ar amryw gynhyrchion a oedd ar gael ar y farchnad, ond i mi roedd y mwyafrif yn rhy oren eu golwg neu’n ludiog ar ôl cael eu rhoi ymlaen. Penderfynes i edrych ar ddatblygu fy mrand unigryw fy hun, ac felly dechreues i’m cenhadaeth i ddod o hyd i’r lliw haul perffaith!

Roeddwn i am ddatblygu rhywbeth sydyn a hawdd gyda’r person prysur mewn cof – lliw haul a allai gael ei ddefnyddio yn ystod diwrnod prysur. Ar ôl ymgynghori ag arbenigwyr diwydiant, a’m harweiniodd a’m cynghori fi drwy’r broses gyffrous yma, cafodd y cynhyrchion perffaith eu creu ag iddyn nhw’r enw addas Tanya Whitebits.

 

Ffactorau Llwyddiant: Gofyn am gyngor arbenigol; perffeithio fy nhechneg; meddu ar ddyfalbarhad a phenderfyniad