Sian B Roberts
Loving Welsh Food
Trosolwg:
Hyrwyddo bwyd Cymreig
Sectorau:
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Caerdydd

Dechreuais fy musnes i hyrwyddo bwyd o Gymru. Ro’n i bob amser wedi bod eisiau cynhyrchu DVD am fwyd o Gymru, ond sylweddolais nad oedd hynny’n mynd i fod yn ddigon ar ei ben ei hun i gynnal busnes. Felly, nawr, rydym yn cynnal gweithdai coginio, arddangosiadau, sgyrsiau a saffaris bwyd. 
 
Mwynhewch yr hyn yr ydych yn ei wneud, dysgwch gan eraill, a pheidiwch â bod ofn rhannu syniadau.
Sian B Roberts - Loving Welsh Food
 
Rwyf wrth fy modd gyda’r ffaith fy mod yn cyfuno fy holl brofiad a’m doniau wrth ddatblygu syniadau ar gyfer Coginio/Loving Welsh Food. Roedd y flwyddyn gyntaf yn anodd, ond dysgais pa mor bwysig yw marchnata a hyrwyddo eich cynhyrchion, a bod yn wydn a chadarnhaol.