Sian Bushell
Sian Bushell
Sian Bushell Associates
Trosolwg:
Hwylusydd cyfarfodydd ar gyfer busnesau teuluol
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Sir Benfro

Mae Sian Bushell Associates yn hwyluso cyfarfodydd ar gyfer busnesau teuluol, yn enwedig ffermydd teuluol wrth geisio datrys materion olyniaeth. Mae'r busnes yn gweithio ledled y DU ac Iwerddon. Rydym hefyd yn gweithredu fel cyfryngwr i'r teuluoedd hynny sydd mewn anghydfod dros olyniaeth. Ochr yn ochr â hyn, rwyf yn rhedeg seminarau a gweithdai ar olyniaeth a llywodraethu da ar gyfer y busnes teuluol.

Gan fod y busnes yn unigryw rwyf wedi gorfod dysgu o’m profiadau fy hun. Rwyf wedi datblygu mwy o ochr hyfforddi i'r busnes na ddisgwyliais ei wneud.

Dysga o’r bobl sydd wedi rhagori mewn adran debyg. Adeilada rhwydwaith o bobl a fyddai'n dy gefnogi drwy amseroedd caled. Gwna'r hyn rwyt yn ei garu.

Sian Bushell - Sian Bushell Associates

Gan mai fi yw'r unig fusnes Hwyluso Olyniaeth yn y DU ac Iwerddon roedd cyhoeddusrwydd yn allweddol. Roedd cael y cyhoeddusrwydd heb y profiad yn anodd iawn. Roedd rhaid i mi ffurfio perthynas gyda phobl allweddol a fyddai wedyn yn fy hyrwyddo. Roedd rhaid i mi hefyd wneud llawer o siarad mewn cyfarfodydd am ddim i roi cyhoeddusrwydd i’r hyn yr wyf yn ei wneud. Fe’i cefais yn eithaf anodd gwneud hyn i gyd ar ben fy hun, felly fe ddatblygais rwydwaith o bobl yr wyf yn ymddiried ynddynt ac fe gefais fentor i fy hun.

Roedd yn anodd iawn a’r wers fwyaf a ddysgais oedd, os ydych wir yn credu yn yr hyn yr ydych yn ei wneud, mae’n rhaid i chi ddyfalbarhau, hyd yn oed pan mae pobl eraill yn eich amau. 

Gwefan: www.sianbushellassociates.co.uk