Roberts and Astley
Sian Rees Astley
Roberts and Astley
Trosolwg:
Siop ar-lein sy’n adnewyddu a gwerthu dodrefn a nwyddau cartref ‘Vintage’ o ganol yr 20fed ganrif.
Sectorau:
Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
Rhanbarth:
Gwynedd

Rydym yn gwmni  sy’n adnewyddu a gwerthu dodrefn a nwyddau Vintage ar-lein gyda’n stoc a chynnyrch yn Ynys Mon.  Mae popeth sy’n dod drwy’n drysau yn cael y sylw a’r gofal gorau i'w hadnewyddu i safon arbennig yn barod ar gyfer y bennod nesa yn eu hanes gyda’n cwsmeriaid.

Mae rhagor o wybodaeth yma amdanom ni: www.robertsandastley.com

 

Fe ddechreuon ni’r busnes tra'n dodrefnu ein cartref ein hunain; doedden ni methu a dod o hyd i'r hyn yr oedden yn chwilio amdano ar-lein, felly, gwelsom fwlch yn y farchnad ar gyfer gwerthu hen ddodrefn ar-lein gyda'r holl drafferth o ail-orffen, ail-glustogi a dosbarthu wedi’i wneud o flaen llaw.

Mae’r diddordeb mewn hen bethau wedi bod yno er erioed, ond mae gwir diddordeb gen i mewn gwaith dyluniadau beiddgar canol yr 20fed ganrif. Roeddwn yn ddigon ffodus i gael Mam a oedd hefyd â diddordeb brwd mewn hen bethau, felly, treuliais benwythnosau mewn arwerthiannau a ffeiriau yn chwilota am drysorau. Rwyf hefyd wedi mwynhau gweithio gyda fy nwylo ers pan yn ddim o beth, felly dewisais i astudio celfyddyd gain yn y Brifysgol (gan arbenigo mewn cerflunio); ma’r sgiliau rwyf wedi’i ddysgu yn gwneud hyn yn ddelfrydol ar gyfer ail-orffen dodrefn ac ail-glustogwaith i'r cwmni.

 

Y broblem fwyaf i mi hyd yma yn y byd gwaith oedd deall (a derbyn!) na fedrwn i wneud bob dim fy hun! Pan gynyddodd y galw am waith a chynnyrch, dyna pryd sylweddolais nad oeddwn yn gallu gwneud bob dim a’i bod hi’n hollol iawn i ofyn am help ac allanoli peth o’r gwaith.

Bellach, rydym yn gweithio a sawl unigolyn, a busnesau fel ein bod yn dîm o weithwyr yn rhannu sgiliau a gallu.

 
Dwi wrth fy modd gyda’r rhyddid i weithio ar rywbeth gwahanol bob dydd. Mae gofyn bod yn hyblyg a chreu perthynas dda gyda cwsmeriaid a’r bobl rydych yn gweithio gyda - ond mae’r deunydd terfynnol yn brawf o’r holl waith caled ac yn rywbeth rydym yn falch ohonnynt.

Does dim gwadu’r ffaith fod y cyfryngau cymdeithasol yn adnodd gwych ar gyfer gwneud cysylltiadau a dysgu am bethau newydd, ond i mi, mae’r cysylltiad wyneb yn wyneb yr un mor bwysig ym myd busnes, - cofiwch hynny!