Mae Focused Minds yn darparu cymorth lles wedi'i deilwra i'r unigolion o fewn y sefydliadau. Mae cyfleoedd hefyd i gael cymorth 1:1 ar gyfer Hyfforddi a Hypnotherapi Clinigol.
Ar ôl gweithio mewn sefydliadau yn y Sector Cyhoeddus, Preifat a'r Trydydd Sector, roeddwn yn teimlo rheidrwydd i ddilyn fy niddordeb a gweithio gyda phobl i'w helpu i rymuso eu cynnydd eu hunain, ac felly sefydlwyd Focused Minds. Rwyf wedi bod yn ffodus i helpu llawer o bobl sy'n wynebu rhwystrau amrywiol mewn bywyd a gwaith yn ogystal â chyfuno hyn â gallu darparu gwasanaeth i gynulleidfa ehangach drwy'r rhaglenni hyfforddiant lles yr wyf wedi'u datblygu.
Trwy ehangu fy mhrofiadau o fod yn hunangyflogedig, ynghyd â chwmni adeiladu sefydledig, rwy'n ffynnu ar allu rhannu fy mhrofiadau.
Rwy'n cael fy ysbrydoli gan yr awydd i rannu gydag eraill sut y GALLWCH oresgyn unrhyw rwystrau sydd yn y ffordd. Trwy fy mhrofiad fy hun rwyf wedi dysgu y gallwch chi wireddu eich breuddwydion drwy fod ag agwedd bositif tuag at waith, ymdrech gyson a deall eich gwerthoedd craidd. Mae hon yn neges sydd angen ei rhannu a'i phrofi gan bawb!
Rwyf wedi treulio nifer o flynyddoedd yn teimlo fel bod yn rhaid i mi ffitio'r mowld a chael swydd "go iawn"; am 20 mlynedd a mwy roedd gen i swyddi parchus mewn diwydiannau cydnabyddedig, oedd yn cynnig sicrwydd ariannol a gyrfa. Er bod pob swydd wedi dysgu llawer i mi, roeddwn yn anfodlon fy myd. Hynny yw, nes i mi gymryd yr amser i fyfyrio ac asesu'r hyn oedd yn fy nhanio i YN BERSONOL - yn hytrach na pha ran ohonof i oedd yn ffitio i mewn i rywle arall. Roedd hon yn foment a newidiodd fy mywyd gan fy arwain i lawr y llwybr o helpu eraill, ac yn y pen draw, fy helpu fi fy hun.
Y peth gorau am fod yn fos arnoch chi eich hun yw bod yn driw i chi'ch hun. Mae'r gallu i wneud rhywbeth y mae gennych angerdd amdano, mewn ffordd rydych chi'n gwybod sy'n wreiddiol, yn golygu y byddwch chi'n teimlo'n fodlon â’r gwaith rydych chi'n ei wneud.
Mae bod yn fos arnoch eich hun yn golygu bod gennych yr hyblygrwydd i weithio yn unol â'ch gofynion, eich amserlenni a’ch cleientiaid eich hun. Er eich bod o bosibl yn cytuno i wneud mwy nag y dylech yn y blynyddoedd cynnar, ar ôl adeiladu eich busnes gallwch ddewis beth ydych chi’n ei wneud gyda phwy rydych chi'n gweithio.
"Llwyddiant yw hoffi eich hun, hoffi'r hyn rydych chi'n ei wneud a hoffi sut rydych chi'n ei wneud!" Maya Angelou
Cynghorion:
Sefydlwch agwedd bositif tuag at waith
Peidiwch byth â bodloni ar wneud llai na’ch gorau
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod yn glir beth ydych chi eisiau ei wneud a sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’ch gwerthoedd craidd
Ceisiwch ddeall eich cleient delfrydol
Cyflawnwch beth mae'r cleient ei eisiau nid yr hyn rydych chi ei eisiau
Gwnewch amser ar gyfer y gwaith 'cynllunio' yn ogystal â'r 'gwneud'
Meysydd arbenigedd:
Lles – unigolion a sefydliad
Rheoli straen/Rheoli Amser/ Cyfathrebu Effeithiol
Gwytnwch/Cymhelliant/Hyder
Cyflogadwyedd
Profiad hunangyflogedig ychwanegol yr wyf yn ei ddefnyddio yw fy nghwmni adeiladu presennol a fy nghwmni arlwyo corfforaethol blaenorol (fel yr arlwywr mewnol i Amazon)