Sid Madge ffoto
Sid Madge
Mad Hen
Trosolwg:
Helpu busnesau i wneud yn well
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Gwynedd

Sefydlais fy musnes yn 2010 gydag un nod syml: i bontio'r bwlch rhwng cwmnïau a'u cwsmeriaid, creu brandiau, ysbrydoli pobl a gwthio perfformiad busnes. Cyn hyn roeddwn yn gweithio gyda rhai o asiantaethau creadigol blaenllaw Ewrop - yn Llundain, Efrog Newydd ac Amsterdam.
 
Profwch eich syniad ar y farchnad yn drylwyr, a gwnewch yn siŵr eich bod wir yn deall pwy yw eich cwsmeriaid.
Sid Madge - Mad Hen
 
Roedd y flwyddyn gyntaf yn frawychus, ond arloesol ac yn hollol gyffrous.  Rwyf wrth fy modd â’r rhyddid i esblygu ac addasu'r hyn rydym yn ei wneud, a gweithio'n agos gyda fy nhîm creadigol. Rwyf wedi gorfod ymdopi â rhai anawsterau - y dirywiad yn yr economi, gan weithio o leoliad mor anghysbell, a faint o deithio rwyf wedi gorfod ei wneud.
 
Ers dechrau yn 2010 rydw i wedi mynd o’r Bala i Brooklyn yn Efrog Newydd ... felly pwy a ŵyr lle y byddaf yn cyrraedd y flwyddyn nesaf!