Sion Huw Thomas
Sion Thomas Martial Arts (Known before as Burman's Martial Arts, Self Defence and Fitness)
Trosolwg:
martial arts and self defence
Sectorau:
Gofal iechyd a gofal cyflenwol
Rhanbarth:
Gwynedd

Rwyf wedi bod yn gwneud Crefft Ymladd ers 16 o flynyddoedd ac rwy’n meddu ar Wregys Du Gradd 4. Hyfforddais â chyn Bencampwr UFC y Byd, Royce Gracie, sawl gwaith pan oeddwn yn fy arddegau. Gadewais y Coleg yn 2013 yn 18 oed ac agorais fy Academi Crefft Ymladd gyntaf yn Llandudno, gan addysgu carate, cicfocsio a Krav Maga.

Hyfforddais â’r ymladdwr UFC Pwysau Welter, Stephen ""Wonderboy"" Thompson, yn Florida yn ystod yr haf 2016.

Cefais fy enwebu ar gyfer Gwobr Busnes Ffitrwydd y Flwyddyn i Bobl Ifainc Gogledd Cymru yn 2016 gan ennill y wobr yn ogystal â’r Wobr Busnes Cyffredinol y Flwyddyn yn 2016.

Yn 2017 des i’n fodel rôl ar gyfer Syniadau Mawr Cymru.

Yn 2018 des i’n un o aelodau gwreiddiol Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy sef "Armour Program", rhaglen a ddyluniwyd i helpu plant a phobl ifainc sydd mewn perygl neu’n dioddef Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE). Gwirfoddoli i addysgu technegau i dorri’n rhydd i grwpiau o bobl ifainc sy’n agored i brofi cam-fanteisio.

Yn y gaeaf 2018, ailenwyd yr Academi yn Siôn Thomas Martial Arts ar ôl gwahanu â’r academi fasnachfraint.

Yn 2019 agorwyd ail Academi Crefft Ymladd ym Mangor gan addysgu Krav Maga.