Steffan Huws
Poblado Coffi
Trosolwg:
Arbenigwyr Coffi
Sectorau:
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Gwynedd

Ar ôl rhagor o deithio ac anturio am nifer o flynyddoedd, rydym ni wedi setlo o’r diwedd mewn cornel brydferth o Ogledd Cymru. Mae ffrynt y tŷ yn cynnig machludau haul ysblennydd dros Fôr Iwerddon, tra bod ein gardd gefn yn wynebu Parc Cenedlaethol Eryri, un o feysydd chwarae mwyaf Ynysoedd Prydain. O’r lle prydferth hwn, rydym yn anelu at aros yn gysylltiedig â’r pentref byd-eang drwy ddod â rhywfaint o’i ffa coffi coethaf yma i Eryri, i gael eu rhostio a’u cymysgu yn dyner.

Ar ôl tair blynedd o rostio yn y ‘cwt coffi’ yng ngwaelod yr ardd, roedd yn amser i symud i leoliad ychydig mwy, yn ogystal â chael gwell rhostiwr er mwyn ymdrin â’r galw. Rydym yn awr yn hen farics y Chwarelwyr yn Nantlle, un o’r dyffrynnoedd mwyaf trawiadol ym Mharc Cenedlaethol Eryri i gyd. Rydym yn aml yn cael beth sy’n ein barn ni, yr olygfa orau o’r Wyddfa, ac rydym yn gwneud ein rhostio i gyd o’r fan hyn yn awr