Steffan Jones
Steffan Jones Lighting Ltd
Trosolwg:
Gwasanaethau ar gyfer sectorau'r cyfryngau ac adloniant
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerdydd

Ro'n i wastad wedi bod eisiau rhedeg fy musnes fy hun.

Pan oeddwn yn ifanc, ro'n i'n manteisio ar bob cyfle i wneud arian, gan gynnwys torri glaswellt y cymdogion. Pan oeddwn yn yr ysgol, fe wnes i redeg gorsaf radio a chynnig cyrsiau hyfforddiant technegol i fy nghyd-ddisgyblion.

"Peidiwch â siarad am y syniad - ewch ati i'w roi ar waith! Ond peidiwch â rhuthro - mae angen llawer o amser a gwaith cynllunio. Cysylltwch â'r cynghorwyr a'r arbenigwyr gorau - a pheidiwch â bod ofn methu!"

Steffan Jones - Steffan Jones Lighting

Ro'n i hefyd yn gweithio'n llawrydd ym meysydd theatr a goleuadau y tu allan i'r ysgol.  Ar ôl graddio o'r Sefydliad Darlledu, fe ddechreuais fy nghwmni cyntaf fy hun.

Steffan Jones Lighting yw enw fy menter bresennol. Mae'n cynnig gwasanaethau ar gyfer sectorau'r cyfryngau ac adloniant - dylunio, cyfeirio ac ymgynghori ynghylch goleuadau ar gyfer teledu, cyngherddau, teithiau, theatrau a'r celfyddydau perfformio. 

Rydw i hefyd yn rhedeg ac yn berchen ar Widebeam Media a Production Zync, gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd, Llundain a UDA.


Cysylltu gyda Steffan