Steve Griffin
Griffin Guiding
Trosolwg:
Gwasanaethau tywysu yng Nghymru a thu hwnt
Sectorau:
Twristiaeth
Rhanbarth:
Rhondda Cynon Taf

Roedd yr ysgol yn anodd a’r canlyniad oedd gweithio mewn swyddi nad oeddwn yn eu mwynhau.  Ond ar ôl tymor sgïo yn Ffrainc cefais brofiad o'r diwydiant, a phan gyrhaeddais adref roeddwn yn benderfynol o newid pethau.  Felly, fe sefydlais fy nghwmni fy hun, Griffin Guiding.  Mae'n darparu agwedd hyblyg i’r gwasanaethau arwain teithiau yng Nghymru ac o'i chwmpas. Rwyf hefyd wedi estyn allan bellach i ymdrin ag asiantau llongau mordaith a chwmnïau trên gan gynnwys yr Orient Express.
 
Dewiswch rywbeth rydych chi wir ag angerdd yn ei gylch; Cymerwch unrhyw hyfforddiant a gynigir i chi gan y byddwch bob amser yn dysgu rhywbeth. A pheidiwch byth â bod ofn gofyn am help.
Steve Griffin - Griffin Guiding
 
Roedd yn anodd i ddechrau, ond buan y sylweddolais bod gweithio'n galed yn talu. Mae’r hyblygrwydd o fod yn fos ar fy hun yn fonws ac yn helpu gydag ymrwymiadau teuluol.