Sue Poole
Sue Poole
2B Enterprising Ltd
Trosolwg:
Angerddol ynglŷn ag annog ysbryd entrepreneuraidd mewn pobl ifanc, gan roi sgiliau a dyheadau entrepreneuraidd iddynt er mwyn eu galluogi i gyflawni eu potensial.
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Abertawe

Mae Sue wedi bod yn angerddol ynglŷn ag annog ysbryd entrepreneuraidd mewn pobl ifanc ers roedd yn yr ysgol gynradd, ac yna yn ystod ei chyfnod yn y brifysgol. Chwaraeodd Sue rôl allweddol yn y prosiect ‘Primary to Professional’, a enillodd wobr yng Ngwobrau Prydain Fentrus yn 2014, ac fe aeth ymlaen i dderbyn ‘Sylw Arbennig’ yn y Cynulliad BBaCh yn Naples.

Cyn hynny, roedd gan Sue rôl allweddol yn lansiad yr Academi Entrepreneuriaeth (y cyntaf o’i fath yng Nghymru), helpodd i sefydlu’r Siambr Fasnach Ifanc, a gweithiodd yn ddiflino i gefnogi menter y Young Business Dragons.

Mae hi wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol am ei gwaith, gan ennill Addysgwr Menter y Flwyddyn y DU yn 2011, ac eto yn 2015, a chael ei gwneud yn ‘Fentor Busnes y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Menywod mewn Busnes 2012, a gynhaliwyd ar y cyd â PwC. Cafodd hi hefyd ei hanrhydeddu yn Nhŷ’r Arglwyddi fel Addysgwr Menter y Flwyddyn y DU yn 2016. Gofynnodd Edwina Hart, y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Fenter yn y Cynulliad Cenedlaethol, i Sue eistedd ar Banel Menter Cymru gyda 4 o entrepreneuriaid ac academyddion uchel eu proffil eraill sy’n cynghori ar strategaeth fenter Cymru.

Mae Sue hefyd yn Brif Weithredwr menter gymdeithasol newydd yr ‘Young Dragons’, sydd â’r nod o ysbrydoli, grymuso a rhoi’r sgiliau, y profiad a’r uchelgais sydd eu hangen ar bobl ifanc i lwyddo mewn bywyd. Mae’r cwmni’n canolbwyntio ar feithrin pobl ifanc, gan godi dyheadau pawb, gan gynnwys y rhai sydd ar y cyrion mewn cymdeithas, datblygu eu hunanhyder, codi eu dyheadau a’u helpu nhw i gyflawni eu potensial.

Y prif ffocws fydd ymgysylltu â phobl ifanc rhwng 5-25 oed, gyda’r nod o roi’r sgiliau a’r dyheadau entrepreneuraidd iddynt, er mwyn eu galluogi nhw i gyflawni eu potensial. Mae Sue yn credu’n gryf mewn rhoi gwybodaeth sylfaenol am entrepreneuriaeth i bobl ifanc, a dangos iddynt sut i gychwyn arni yn y byd entrepreneuriaeth, a’u hannog i gael dyheadau uchelgeisiol a chyfrannu at eu datblygiad personol. Mewn amser, bydd hyn yn cael dylanwad cadarnhaol ar ddyfodol yr economi leol, os yw’r bobl ifanc hynny’n cael swyddi â busnesau lleol neu’n penderfynu cychwyn eu busnesau eu hunain.

Dros y 2 flynedd ddiwethaf, mae Sue hefyd wedi bod yn datblygu rhaglen fenter arloesol o’r enw “The Bumbles of Honeywood” ar gyfer plant sy’n cychwyn yn llawn amser yn yr ysgol. “Mae’n gyfres o chwe llyfr addysgol sy’n ymchwilio i sefyllfa amgylcheddol poblogaeth y gwenyn,” meddai Sue. “Mae pob stori wedi’i osod yng nghymuned Honeywood, ac yn canolbwyntio ar Deulu’r Bumble wrth iddynt oresgyn gwahanol broblemau gan ddefnyddio eu sgiliau medrus.”

Mae’r pecyn y mae Sue wedi ei ddylunio yn cynnwys cwch gwenyn mawr wedi’i wau â llaw gan aelodau Sefydliad y Merched ym mhob cwr o Gymru, yn ogystal â phlanhigion bach a hadau sy’n addas i wenyn ar gyfer bob plentyn. Mae’r pecyn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau i blant er mwyn i rieni ac athrawon allu cyflwyno’r disgyblion i’r sgiliau entrepreneuraidd hanfodol sydd eu hangen er mwyn llwyddo mewn bywyd – sgiliau y mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw atynt fel rhai sy’n hollbwysig i bobl ifanc gyflawni dyfodol llwyddiannus.” 

Mae straeon Bumbles of Honeywood yn archwilio meddylfryd menter, ac yn bodloni’r canlyniadau Cyfnod Sylfaen ar gyfer sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu. Maent yn cynorthwyo dysgwyr ymhellach wrth iddynt ehangu eu gallu i ddatblygu ac i gyflwyno gwybodaeth, gan integreiddio agweddau ar siarad, gwrando, cydweithio a thrafod.