Cyn dechrau’r busnes llewyrchus sydd ganddi ar hyn o bryd, roedd gan Sue Powell-Reed yrfa a ffordd o fyw hynod lwyddiannus.
Roedd yn nofiwr rhyngwladol gyda diddordeb mewn bob math o chwaraeon, ac roedd hi hefyd yn addysgu Lleferydd a Drama yn Academi Cerddoriaeth a Chelfyddydau Dramatig Llundain.
"Brwdfrydedd ynghylch eich gwaith' yw hanfod llwyddiant."
Sue Powell-Reed - Vibe TV
Dechreuodd weithio i orsaf radio leol ym 1978 ac ar yr un pryd, dechreuodd ysgrifennu erthyglau llawrydd am chwaraeon ar gyfer y South Wales Evening Post.
Ym 1980, ysgrifennodd at HTV (ITV Cymru Wales erbyn hyn) yn gofyn a oedd hi'n amser iddyn nhw gyflogi menyw fel gohebydd chwaraeon.
Fe gytunon nhw, a dechreuodd ar yrfa ym myd darlledu a barodd 26 o flynyddoedd. Bu'n gwneud sawl rôl yn y cwmni gan gynnwys gohebydd chwaraeon, darllenydd newyddion, cyflwynydd ac yn olaf fel cyhoeddwr stiwdio ar gyfer Cymru.
Ar ôl gadael ITV Cymru Wales ym 1996, agorodd Sue Vibe TV. Mae'r cwmni yn cynhyrchu gwaith ar gyfer llawer o sefydliadau mawr, gan gynnwys y Cynulliad. Maen nhw wedi teithio gyda Phrif Weinidog Cymru a Busnes Rhyngwladol Cymru i Washington DC pan ddilynodd Vibe 80 o gwmnïau o Gymru ar y daith fasnach fwyaf erioed i adael y dywysogaeth.
Mae Vibe yn helpu cwmnïau i hyrwyddo eu busnes drwy ddefnyddio fideos neu animeiddio graffeg. Mae Vibe yn siop-un-safle ar gyfer pob gwaith clywedol/gweledol, gan gynnwys ffrydio byw, darlledu o ddigwyddiadau a phopeth sy'n ymwneud â ffilmio, boed yn fideos ymledol, hysbysebion teledu neu'n rhaglenni dogfen.