Surj Bami
Blue Harper Corporation Ltd
Trosolwg:
Cwmni ymgynghori ym maes busnes, strategaeth a rheoli yn y sectorau Ariannol a Chyhoeddus
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Caerdydd

Rydym yn fusnes, ymgynghoriaeth strategaeth a rheoli sy'n gweithio yn y Sectorau Ariannol a Chyhoeddus. Dechreuais Blue Harper gyda gweledigaeth syml: Arbenigedd o’r radd flaenaf, canlyniadau mesuradwy a gwerth rhagorol. Roeddwn i eisiau datblygu model ymgynghori gwahanol, mwy effeithiol, hyblyg ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau. 
 
Rwyf wedi bod yn helpu sefydliadau i ddatrys heriau busnes am bron i 25 mlynedd. 
Cadwch bethau'n syml, dysgwch wrth fynd ymlaen, disgwyliwch a chroesawch heriau, ond yn fwy na dim – cymerwch yr awenau!
Surj Bami - Blue Harper Corporation Ltd
 
Roedd fy mlwyddyn gyntaf mewn busnes yn agoriad llygad. Roedd eistedd yno heb unrhyw gleientiaid a dim sefydliad y tu ôl i chi yn frawychus, ond fe sylweddolais ei fod mor wallgof ag y dewiswch iddo fod. Unwaith y byddwch yn sylweddoli bod pawb yn cymryd risgiau yn ddiarwybod bob dydd, rydych yn torchi’ch llewys a mynd amdani. Golygodd y newid meddwl hynny fy mod allan yn y maes, yn cwrdd â phobl ac yn dweud wrthynt yn hyderus beth y gallwn ei wneud. Arweiniodd hynny at ennill gwaith ac yna dod â chanlyniadau. Ers hynny rydym wedi mynd o nerth i nerth.
 
Rwyf bob amser wedi bod yn chwilfrydig ac yn barod i fynd yn groes i’r llif, rhywbeth sydd wedi siapio fy rhagolygon mewn busnes. Rydym yn defnyddio pob math o ddulliau i gael canlyniadau. Yr unig beth y byddwn wedi'i wneud yn wahanol yn fy mywyd fyddai wedi dechrau busnes yn llawer cynt, a dyna pam yr wyf yn credu ei bod hi mor bwysig i gael y neges allan i bobl ifanc yn gynt.