Tammika Hopkins
Flamin Heels
Trosolwg:
Addysgu dosbarthiadau dawnsio salsa yn ardal de Cymru
Sectorau:
Gofal iechyd a gofal cyflenwol
Rhanbarth:
Rhondda Cynon Taf

Rydw i'n addysgu dosbarthiadau dawnsio salsa yn ardal de Cymru, a Phontypridd yw cartref fy musnes.

Fe gefais gynnig cytundeb recordio 2 flynedd yn ôl, ac fe ddechreuais fy nghwmni dawns tua 2 flynedd cyn hynny. Rydw i hefyd yn gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf yn rhan o fenter Iechyd a Ffitrwydd yn y Gweithle, ac rydw i'n cynnig ystod eang o wersi dawns i amrywiaeth o bobl.

"Ewch amdani pan ydych yn ifanc! Nid oes y fath beth â chamgymeriad os ydych yn dysgu oddi wrtho.

Pan ddechreuais fy musnes, ro'n i'n byw gartref gyda fy rhieni. Felly, doedd dim byd i'w golli pe na byddai'r busnes wedi llwyddo.

Pan fyddwch yn hŷn, ac o'r oedran pan mae gennych forgais, mae dechrau busnes yn fwy o risg, mae gennych fwy i'w golli. Peidiwch â bodloni ar 'wneud y tro', a dilynwch eich breuddwydion."

Tammika Hopkins - Flamin Heels

Fe ddysgais sut i ddawnsio pan oeddwn ar fy ngwyliau yn Cuba. Fe wnes i ei fwynhau cymaint fel imi gwblhau cwrs addysgu ac fe ymunais â chwmni addysgu dawns am gyfnod byr. Fe benderfynais ddechrau weithio imi fy hun gan fod pobl yn argymell imi wneud hynny.

Rydw i wrth fy modd gyda'r ffaith mod i'n cwrdd â gwahanol bobl bob dydd.  Mae ceisio addysgu pobl sut i ddawnsio yn her, ond mae eu gweld yn gwella yn rhoi cymaint o wefr!

Fe gewch gyfnodau da a gwael mewn busnes - os nad oes gan bobl arian, maen nhw'n gwario llai ar eu gweithgareddau hamdden, ac mae hynny'n effeithio ar fy musnes.