Tansy Rogerson
Tansy Rogerson
Armadillo events
Trosolwg:
Dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau.
Sectorau:
Twristiaeth
Rhanbarth:
Conwy

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau, mae gennyf doreth o wybodaeth ar draws y sector. Rwyf wedi gweithio i asiantaethau cynadledda mawr, cwmnïau rheoli digwyddiadau, cwmnïau hedfan a gwestai pen ucha'r farchnad.

Sefydlais fy nghwmni rheoli digwyddiadau fy hun yn 2015, a drwy greu fy nigwyddiadau arloesol fy hun rwyf wedi helpu i gefnogi twf prosiect twristiaeth bwyd gwerth miliynau o bunnau ar gyfer Cymru.

Yn aml iawn bydd gennyf fy arddangosfa fy hun, neu byddaf yn siaradwr gwadd neu’n gynrychiolydd ar ran busnesau twristiaeth mewn digwyddiadau ac arddangosfeydd ledled y byd, gan gynnwys Japan / Sbaen / Yr Almaen.

Rwy’n ddarlithydd ac yn siaradwr gwadd rheolaidd mewn digwyddiadau a seminarau addysgol twristiaeth a lletygarwch.

Dyma fy nghyngor:

  • Rhowch ffydd yn eich greddf - peidiwch byth â diystyru eich greddf pan fydd yn ceisio dweud wrthych nad yw rhywbeth yn taro deuddeg, neu ei fod yn benderfyniad da.
  • Peidiwch â bod ofn gofyn am help!
  • Credwch ynoch eich hun, fydd rhai dyddiau’n anodd, ond mae gan bethau ffordd o ddatrys eu hunain yn y diwedd!