Tim Penn
Tim Penn
Signature Leather Limited
Trosolwg:
Casgliadau menig o fyd chwaraeon a ffasiwn "Wedi'u Gwneud ym Mhrydain"
Sectorau:
Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
Rhanbarth:
Sir Ddinbych

Gadewais yr ysgol yn 16 oed ar dân eisiau bod yn joci, a threuliais yrfa ryngwladol ddeng mlynedd o hyd ym myd y campau fel joci amatur.

"Peidiwch â digalonni os nad yw'r syniad busnes yn un "cwbl gyflawn" ar y dechrau. Pan mae cynnyrch neu wasanaeth newydd ar y farchnad, buan iawn y bydd gofynion y farchnad yn mireinio unrhyw fusnes newydd"

Tim Penn - Signature Leather Limited

Fe benderfynais ddychwelyd i addysg ffurfiol yn fy mhedwardegau cynnar gan ddechrau gydag ennill TGAU Ffrangeg ac Almaeneg.

Wedi hynny, fe wnes i hefyd ennill 3 Safon Uwch a BA (Anrh) o'r Brifysgol Agored a arweiniodd at Radd Meistr (MBA) o Brifysgol Durham yn ogystal â cymhwyso fel athro gyda TAR, AFHEA. 

Sefydlais Signature Leather Limited yn 2005. Mae'n gwmni sy'n canolbwyntio ar ddosbarthu ein casgliadau ein hunain o fenig chwaraeon a ffasiwn sydd "Wedi'u Gwneud ym Mhrydain".

Yr hyn sy'n ein gwneud yn wahanol yw'r ffaith fod ein menig wedi'u torri â llaw a'u paratoi gan offer a sgiliau o Oes Victoria yr ydym yn parhau i'w defnyddio heddiw.